Ysbyty Maelor: ''Dan ni yno efo'r cleifion o hyd'

- Cyhoeddwyd
O restrau aros hir i gleifion yn cysgu mewn coridorau, mae straeon am y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyson yn y newyddion.
Tu hwnt i'r heriau yma mae 'na bobl sy'n gweithio mewn amgylchiadau anodd ac mae cyfres newydd ar S4C, Ysbyty, yn rhoi cipolwg ar waith rhai o aelodau staff ysbytai gogledd Cymru.
Un o'r rheiny yw Rhian Wyn Edwards o Ddyffryn Ceiriog, sy'n weithiwr cymorth gofal iechyd yn yr adran frys yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Bu Rhian yn rhannu sut beth yw gweithio mewn uned lle dyw'r drysau byth yn cau a sut brofiad oedd cael camerâu yn ei dilyn wrth ei gwaith.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dwi wedi ymuno â'r NHS i helpu bobl ac i wneud gwahaniaeth gobeithio. Mae pawb yn dweud fod yr ysbyty wastad yn orlawn ac mae o – ond 'dan ni'n delio gyda fo ac yn tynnu'n glos fel tîm ac yn gweithio dan amgylchiadau caled."
Mae Rhian yn obeithiol y bydd y gyfres newydd yn arwain at fwy o ddealltwriaeth o'r heriau i staff: "Mae 'na bobl yn dweud weithiau bod hi ddim yn brysur ond mae'r doctors yn delio efo sefyllfaoedd lle mae angen cadw rhywun yn fyw.
"Mae pobl yn deall. Mae 'na lot i ddweud am sut ti'n mynd o gwmpas pethau a sut ti'n siarad efo pobl. A dyna lle mae'r empathi yn dod mewn.
"Mae 'na rai sy' wedi aros deuddydd (i gael gofal) ond mae'n rhaid i bobl hefyd sylweddoli beth sy'n dod mewn drwy'r drysau. Fedri di eistedd lawr a siarad efo pobl a dweud 'ni'n sori, mae 'na aros hir ond mae lot o ambiwlansys mewn'.
"Weithiau dyna'r cwbl maen nhw isho clywed. Yn lle gadael nhw'n eistedd yn reception am 12 awr, ti'n dweud, 'dyma fel y mae hi'.
"Mae pobl isho gwybod bod y staff ddim wedi anghofio amdanynt. Ac mae pawb yn haeddu hynny."
Heriau
Un o'r prif broblemau sy'n dod i'r amlwg yn y gyfres yw'r ffaith fod cleifion methu mynd adref gan nad oes gofal iddynt yno, fel mae Rhian yn sôn: "Wrth gwrs mae 'na amseroedd hir i aros oherwydd bod tai a'r boblogaeth yn mynd i fyny ond does dim byd yn digwydd efo'r ysbyty.
"Y peth ydy maen nhw'n adeiladu mwy o dai ac wedyn mae gen ti deulu o bedwar mewn tŷ ond dydy'r ysbyty ddim yn ehangu."

Codi calon
Yn ogystal â gofalu, mae Rhian yn angerddol fod codi calon y cleifion yn rhan o'i rôl: "Os dwi'n medru 'neud i un person wenu a theimlo'n well o fod yn yr ysbyty... mae pawb yna ddim isho bod yna a ddim yn gwybod beth sy'n digwydd a jest i roi nhw dipyn bach at ease a cymryd meddwl nhw i ffwrdd o beth sy'n digwydd.
"Os dwi medru gwneud hynny a chael nhw i wenu dwi'n gwybod mod i'n gwneud rhywbeth yn iawn.
"Dwi'n mynd i'r gwaith yn y bore, dwi'n mwynhau bod o gwmpas pobl, 'neud i bobl chwerthin a rhoi y gofal gorau fedra i i bob un ohonyn nhw. Ac i gofio fod pob un yn hollol wahanol.
"Mae pob un yn cael yr un sylw gynna'i, yr un fath o treatment, dwi ddim yn barnu neb a dwi yn hoffi beth dwi'n 'neud.
"'Dan ni yno efo nhw o hyd".
Iechyd meddwl
Mae Rhian yn esbonio fod 'na reswm pam ei bod hi'n teimlo empathi tuag at y cleifion: "Dwi wedi bod i ffwrdd am ryw flwyddyn efo iechyd meddwl.
"Dwi newydd gael diagnosis o ADHD ac awtistiaeth yn 54 oed. Mae gen i PTSD hefyd a dwi wedi bod mewn llefydd tywyll ac wedi trio cymryd fy mywyd, ond fatha o'n i'n dweud ar y gyfres dwi isho i bawb wybod fod 'na olau ar ddiwedd y twnnel.
"Bydda i ar gyffuriau am weddill fy oes ond dwi'n stable ac mae gen i swydd dda dwi'n mwynhau.
"Dwi isho i bawb i wybod fod 'na olau. Mae pawb yn dioddef o rhyw fath o glefyd meddwl fatha anxiety. Dwi wedi dod allan ohono fo rŵan. Mae 'na lot yn mynd mewn i A&E efo problemau iechyd meddwl."

Ysbrydoliaeth
Y cleifion sy'n ysbrydoli Rhian yn ei gwaith, meddai: "Ydy, mae'n brysur a ti ddim yn cael amser i feddwl weithiau.
"Erbyn diwedd y shifft mae'r traed yn brifo a'r cefn yn brifo ond y cleifion sy'n 'neud i fi gario mlaen fel ydw i. Ni oedd ar y frontline yn ystod Covid ac nes i gael Covid dwy waith o'r gwaith, ond ni yna efo pobl."
Wedi colli ei rhieni fel plentyn cafodd Rhian ei magu gan ei nain ac mae'r magwraeth hyn wedi arwain at ei dyhead i roi yn ôl i'r gymuned.
Meddai: "'Nes i golli Mam yn 11, colli Dad yn 14 ac mae Gwerfyl fy chwaer i efo cerebral palsy. Mae wedi graddio o Bangor a phob dim a chwarae teg i Nain ddaru hi gymryd fi a Gwerfyl ymlaen. Ni wedi cael popeth gan Nain.
"Oedd gan Nain tri job i gadw ni i fynd ac oedd wastad bwyd ar y bwrdd.
"Roedd hi'n goddess. Ddaru fi ddweud wrthi 'we will never let you go in a home' am fod hi wedi neud gymaint i ni. O'n ni isho rhoi yn ôl.
"Pan ddaru Nain farw ddaru rhywbeth newid ac o'n i'n meddwl, 'ia dwi isho rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned'. Oedd Nain wedi rhoi popeth i ni heb ofyn am ddim byd yn ôl."
Gwyliwch Ysbyty ar nos Fawrth am 9:00 ar S4C neu ar BBC iPlayer
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd3 Ebrill