Lluniau: Clapio wyau ar Ynys Môn

Mirain Alaw yn nghanol ei gwaith crefft
- Cyhoeddwyd
Mae 'clapio wyau' yn hen draddodiad sy'n gysylltiedig ag Ynys Môn.
Byddai mynd i glapio (neu glepio) cyn y Pasg yn arfer poblogaidd gan blant yr ynys - gan ddefnyddio teclynnau (clapiau) pren.
Byddai'r plant yn mynd o amgylch y ffermydd lleol (neu unrhyw dyddyn lle cedwid ieir) yn curo ar ddrysau, yn ysgwyd y clapwyr ac yn adrodd rhigwm bach tebyg i hwn:
Clap, clap, os gwelwch chi'n dda ga'i wŷ
Geneth fychan (neu fachgen bychan) ar y plwy'
A dyma fersiwn arall o'r pennill gan Huw D. Jones o'r Gaerwen:
Clep, Clep dau wŷ
Bachgen bach ar y plwy'
Byddai'r drws yn cael ei agor a'r hwn y tu mewn i'r tŷ yn gofyn "A phlant bach pwy 'dach chi?" Ar ôl cael ateb, byddai perchennog y tŷ yn rhoi wŷ yr un i'r plant.
Mae Menter Môn yn parhau â'r traddodiad, a dyma 'chydig o luniau o'r clapio wyau hyd yma eleni yn Llannerch-y-medd, Llanbedrgoch a Gaerwen.

Mabli, Elan, Eila, Elsa ac Aria

Nia ac Anne yn rheoli'r stondin raffl

Plant yn casglu wyau yn Llanbedrgoch

Wil a'i glapiwr

Enia, Aila a Noa

Delyth a Carys yn brysur yn gwneud paneidiau

Ela ac Elain yn creu helfa wyau yn Y Ganolfan

Awel a'i phaent wyneb bwni

Deio, Eban, Noa a Iago yn mwynhau teisen

Cnocio ar ddrysau Gaerwen

Rich Owen o Menter Môn gyda'i gynulleidfa

Selog a Rich

Wyau i blant yn Llanbedrgoch

Un arall o drigolion Gaerwen yn derbyn cnoc ar y drws

Pawb yn mwynhau yn Y Ganolfan, Llanbedrgoch