Cofio Geraint Jarman y bardd

Disgrifiad,

Geraint Jarman yn trafod ei gyfrol - Cerddi Alfred St

  • Cyhoeddwyd

Ar ddechrau Mawrth eleni daeth y newyddion trist fod Geraint Jarman wedi marw yn 74 oed.

Roedd ei ddylanwad fel cerddor, bardd a chynhyrchydd teledu yn enfawr dros y degawdau.

Roedd "Jarman yn ddylanwadol efo D fawr", meddai'r cerddor a'r cyflwynydd Rhys Mwyn, yn dilyn "degawdau o greu, a chreu o safon".

Ar ei raglen nos Lun ar BBC Radio Cymru, bu'n cofio Geraint Jarman gyda llu o westeion gwahanol.

Un ohonyn nhw oedd y bardd Marged Tudur.

Fe siaradodd hi am sut mae'n cael ei gofio i raddau fel canwr yn gyntaf, ond fod ei ddylanwad fel bardd hefyd yn un enfawr.

Mae Marged wedi treulio amser yn astudio barddoniaeth Geraint Jarman ar gyfer ei hastudiaethau PhD, a dyma oedd ganddi i ddweud amdano ar y rhaglen:

Dylanwad athro

Pan rydan ni'n meddwl am Geraint Jarman ma'n hawdd anghofio mai fel bardd y daeth o i amlygrwydd gyntaf.

Roedd o'n sgwennu barddoniaeth yn ystod ei ddyddiau yn yr ysgol uwchradd.

Roedd o a'i gyd-ddisgyblion wedi dwyn sylw Meic Stephens, oedd yn golygu Poetry Wales ar y pryd, ac fe gyhoeddodd o gerddi Geraint a'i gyd-ddisgyblion mewn cyfrol o'r enw Burning the Hands of the Clock yn 1967.

Ond, dwi'n meddwl mai'r trobwynt oedd pan oedd o'n astudio Lefel O.

Fe wnaeth ei athro Cymraeg Elvet Thomas roi sialens iddo i sgwennu yn y Gymraeg a chyhoeddi cyfrol cyn diwedd ei arddegau.

Rydan ni'n aml yn clywed am ddylanwad pellgyrhaeddol athrawon ar sgwennwyr a phobl ifanc ond dwi'n meddwl fod Elvet Thomas wedi bod yn ddylanwadol ac yn bwysig iawn ym mywyd Geraint.

Oni bai am Elvet, tybed a fysa fo wedi sgwennu a chyfansoddi yn y Gymraeg o gwbl?

Eira Cariad ac Alfred Street

Fe gyfansoddodd Eira Cariad rhwng bod yn 15 a 19 oed a chyhoeddi'r gyfrol yn 1970m ac roedd Geraint yn d'eud hyn ei hun, pan oedd o mewn cariad efo barddoniaeth.

Roedd o'n cofio yn Brook St, Glanrafon, llyfra' barddoniaeth ar y silffoedd ymhob man.

Cofio cyfnod o chwe blynedd a'r cwbl oedd o 'di 'neud, yn ôl Geraint, oedd darllen cyfrolau barddoniaeth a'r isio 'ma i fod yn fardd.

Rhyfeddol meddwl fod rhywun mor ifanc wedi sgwennu Eira Cariad a dwi wedi bod yn darllen y cerddi eto dros yr wythnosau d'wetha a sylwi ar y meddwl mor graff a sylwgar a synhwyrus sydd yna.

Maen nhw'n gerddi reit delynegol ac mae 'na dywyllwch bwriadol yna hefyd, ac mae'n sgwennu dipyn o gerddi fel barddoniaeth fel celfyddyd hefyd.

Chwe blynedd wedyn fe gyhoeddodd Cerddi Alfred St. Roedd Geraint wedi byw yn Alfred St rhwng 1969-73. Mae hi'n gyfrol hunangofiannol.

Mae'n gyfrol thematig hefyd ac yn dal yr un cyfnod heriol 'ma ym mywyd Geraint. Mae yna ddelweddau gwych yma.

Hon hefyd oedd hoff gyfrol Geraint o'r dair cyfrol o farddoniaeth gyhoeddodd o. Roedd o'n teimlo fod y sgwennu yn symlach ac yn fwy uniongyrchol.

Disgrifiad,

Geraint Jarman yn darllen ei gerdd Coed Edern

Yr un pryd a gyhoeddodd Cerddi Alfred St roedd o wedi rhyddhau ei albwm cyntaf Gobaith Mawr y Ganrif, a'r gyfrol a'r albwm yn dod allan yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.

Fe newidiodd pethau wedyn mewn ffordd, oherwydd y caneuon gafodd y flaenoriaeth wedyn.

Dwi yn gweld cyswllt rhwng y cerddi a'r caneuon yn y bôn. Rydych chi'n gallu gosod y cwbl mewn dau gategori – y personol a'r cyhoeddus.

Efo rhai caneuon, mae o'n siarad o brofiad ac yn bwrw bol ac mae gennych chi ganeuon wedyn sydd efo swyddogaeth fwy cyhoeddus i herio ac i dd'eud rhywbeth penodol fel rydyn ni'n weld mewn caneuon fel Gwesty Cymru.

Blynyddoedd wedyn yn 2012 cyhoeddodd o Cerbyd Cydwybod - ei drydedd gyfrol o farddoniaeth.

Mae 'na lais mwy aml-haenog yma, ond wedi d'eud hynny mae'r dychan a'r eironi a'r tynnu blewyn o drwyn 'dach chi yn ei weld mewn caneuon fel Gwesty Cymru yn cael ei weld yn Cerbyd Cydwybod hefyd.

Annog y genhedlaeth nesaf

Roedd o'n bwysig i Geraint roi llwyfan i leisiau beirdd ifanc eraill. Dyna 'naeth o efo'i raglen radio.

Roedd ganddo fo slot ar y rhaglen radio yna – Beirdd Ein Canrif.

Be' oedd o'n 'neud oedd croesawu beirdd ifanc i'r rhaglen i gael sgwrs a rhoi cyfle iddyn nhw i gyflwyno eu gwaith nhw.

Dwi'n gwybod fy hun. Alla i ddim disgrifio cymaint o wefr oedd o - roedd Geraint wastad yn fy holi i am yr hyn o'n i'n sgwennu ac yn cymryd diddordeb yn fy ngwaith i, ac roedd meddwl fod y Geraint Jarman yn g'neud hynny yn werth y byd i mi.

Ond, roedd o'n gwybod ei hun fod ymateb fel 'na yn bwysig i rywun ifanc yn union fel y cafodd o gan ei yncl Ffred.

Mae'n bwysig cofio bod rhoi llwyfan i leisiau ifanc yn rhan o genadwri Geraint hefyd.

Mae o wedi gwneud cyfraniad eithriadol, anferthol, parhaol i ddiwylliant Cymraeg.

Pynciau cysylltiedig