Tân ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Gogledd CymruFfynhonnell y llun, Catherine Harmsworth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad am tua 12:30 brynhawn Mercher

Mae diffoddwyr yn parhau i geisio diffodd fflamau ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi'u galw i'r digwyddiad am tua 12:30 brynhawn Mercher.

Mae criwiau o Ddinbych, Rhuthun, Y Rhyl, Treffynnon, Abergele a'r Wyddgrug oll wedi mynychu'r digwyddiad ar safle'r hen ysbyty seiciatryddol.

Dywedon nhw mai to'r adeilad sydd ar dân, sy'n golygu bod yr adeilad mewn cyflwr anniogel.

Disgrifiad,

Diffoddwyr yn brwydro yn erbyn y tân ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru ddydd Mercher

Mae disgwyl i ddiffoddwyr fod yno am beth amser, ac maen nhw'n gofyn i fodurwyr gadw draw o'r ardal tra bo'r gwasanaethau brys yn delio â'r digwyddiad.

Ym mis Mehefin y llynedd dywedodd Cyngor Sir Ddinbych y byddai'n rhaid i ran o'r adeilad gael ei ddymchwel yn dilyn tân arall ar y safle.

Roedd rhan o'r to wedi dymchwel bryd hynny er i 40 o ddiffoddwyr weithio trwy'r nos i geisio ei achub.