Enillwyr Cân i Gymru yn paratoi at yr Ŵyl Ban Geltaidd
- Cyhoeddwyd
Bydd y band Ceidwad y Gân yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd nos Iau.
Fe fydd y grŵp ifanc o ardal Ruthun yn perfformio cân fuddugol Cân i Gymru 2018, Cofio Hedd Wyn, fel rhan o gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau.
Bydd y gystadleuaeth, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r chwe gwlad Geltaidd, yn cael ei chynnal am 19:30 yn Letterkenny, Iwerddon.
Mae enillwyr blaenorol y gystadleuaeth yn cynnwys Bando (1982), Hefin Huws (1989), Elin Fflur a'r Moniars (2003) a Brigyn (2011).
Cymru yw'r wlad sydd wedi gwneud orau yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd, gan gipio'r brif wobr 14 o weithiau.
Yn ogystal â chymryd rhan yn y gystadleuaeth Cân Ryngwladol Orau, bydd y grŵp yn perfformio ar nos Wener fel rhan o'r noson Gymreig.
'Braint arbennig'
Dywedodd Harri Owen, prif leisydd y grŵp, ei bod hi'n "fraint arbennig i allu cynrychioli Cymru" yn yr ŵyl a'u bod yn gobeithio "gwneud y genedl yn falch".
Ychwanegodd bod yr ŵyl yn gyfle i ddathlu diwylliant Cymru ac i gyfarfod a chymysgu â phobl o wledydd eraill.
Yn ôl Harri maen nhw wedi ennill y wobr fwyaf yn barod gan allu cynrychioli Cymru, a bod unrhyw beth arall yn "hufen ar y gacen".
"Mae popeth wedi newid ar ôl Cân i Gymru. Rydyn ni wedi mwynhau'r profiad o fod ar y radio ac mae gennym ni lawer o gigs i edrych ymlaen atyn nhw hefyd," meddai.
Roedd Erfyl Owen, cyfansoddwr y gân a thad Harri yn ategu sylwadau ei fab ar raglen Ifan Evans, Radio Cymru gan egluro sut allai'r ŵyl fod yn blatfform da ar gyfer y band.
"Mi fydd yr ŵyl yn gyfle da i'r hogiau a mwynhau sydd yn bwysig rŵan," meddai.
Bydd modd dilyn y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Ban Geltaidd ar eu tudalen Facebook, dolen allanol swyddogol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2018