Ail Bont Hafren wedi'i henwi'n Bont Tywysog Cymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd ail Bont Hafren ei hagor yn 1996
Bydd yr ail bont dros Afon Hafren yn cael ei hailenwi'n Bont Tywysog Cymru.
Daw'r newid er mwyn nodi 60 mlynedd ers i'r Tywysog Charles dderbyn y teitl.
Ond mae'r enw newydd eisoes wedi derbyn beirniadaeth hallt ar y gwefannau cymdeithasol, gydag amryw yn cwyno nad oedd yna unrhyw ymgynghori gyda phobl Cymru.
Fe wnaeth Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, drydar ynglŷn â faint o ymgynghori a fu gyda Llywodraeth Cymru , dolen allanolcyn gwneud y penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "I gadarnhau, fe wnaeth Alun Cairns ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ynglŷn ag enwi'r bont y flwyddyn ddiwethaf, ac ni wnaethom ddatgan gwrthwynebiad."
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ai joc ffwl Ebrill hwyr oedd y cyfan.
Mae rhai aelodau amlwg o'r blaid Lafur hefyd wedi beirniadu'r penderfyniad, gyda Paul Flynn yn disgrifio'r penderfyniad fel un "chwerthinllyd" oedd yn "benderfyniad gwleidyddol".

Roedd dros 5,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid enw erbyn diwedd prynhawn dydd Iau.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, nad oedd o wedi ei synnu o gwbl o ran y feirniadaeth gan rai.
"Rwy'n gwybod fod y gymuned ehangach, y mwyafrif tawel yn cyd-fynd yn llwyr â'n penderfyniad," meddai ar raglen Good Morning Wales y BBC.
"Rydym o hyd yn gwybod mewn adegau o argyfwng fel cenedl fe all pobl edrych i'r teulu brenhinol ar gyfer arweinyddiaeth ac maen nhw o hyd wedi bod yn barod i ddangos hynny.
"Felly rwy'n gwbl hyderus mai hwn yw'r peth iawn i wneud."
'Cydnabod ei ymrwymiad i Gymru'
Bydd yr enw newydd yn dechrau cael ei ddefnyddio yn yr haf, ac ni fydd enw newydd i'r bont wreiddiol.
Mae'r ailenwi wedi cael sêl bendith y Frenhines a'r Prif Weinidog Theresa May.

Bydd y Tywysog Charles yn 70 oed ym mis Tachwedd
Ychwanegodd Mr Cairns: "Mae'r cyhoeddiad yn deyrnged addas yn y flwyddyn sy'n gweld y Tywysog Charles yn nodi 60 mlynedd fel Tywysog Cymru a degawdau o wasanaeth parhaus ac ymroddgar i'n cenedl.
"Mae ailenwi un o dirnodau mwyaf eiconig Cymru yn fodd priodol o gydnabod ei ymrwymiad i Gymru a'r DU fel Tywysog Cymru."
Cafodd yr ail bont ei hagor yn 1996. Fe gostiodd £332m ac fe gymrodd dros bedair blynedd i'w hadeiladu.