Technoleg archwilio ffonau yn 'amharu' ar breifatrwydd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi codi pryderon ynglŷn â thechnoleg newydd sydd yn cael ei ddefnyddio gan rai o luoedd Heddlu Cymru.
Mae'r drefn newydd yn galluogi iddynt edrych ar ddata ffonau symudol.
Treialu'r dechnoleg y mae Heddlu Dyfed-Powys, tra bod Heddlu Gwent a Gogledd Cymru eisoes yn ei ddefnyddio.
Dywedodd un uwch swyddog y gallai'r drefn newydd arwain at brofi dieuogrwydd pobl.
Mae grŵp ymgyrchu yn galw am drafodaeth bellach am ddefnydd y dechnoleg.
'Adolygiad ar frys'
Ar hyn o bryd mae 26 o luoedd Heddlu ar draws Cymru a Lloegr yn defnyddio'r system.
Mae'r Alban hefyd wedi ei dreialu tra nad yw Gogledd Iwerddon yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd.
Gallai'r Heddlu ddefnyddio'r dechnoleg er mwyn archwilio data unigolion dan amheuaeth, tystion a dioddefwyr.
Mae hawl iddynt edrych ar sawl darn o wybodaeth gan gynnwys data lleoliad, galwadau, negeseuon testun, hanes chwilio'r rhyngrwyd a chyfrineiriau
Bydd modd hefyd i weld data sydd wedi cael ei ddileu gan y defnyddiwr.
Mae'r grŵp ymgyrchu Privacy International wedi galw am adolygiad ar frys i'r system bresennol yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am y drefn.
Fe ddaethon nhw o hyd i'r lluoedd oedd yn defnyddio'r dechnoleg trwy geisiadau o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth. O'r 47 o luoedd wnaethon nhw gysylltu â nhw, 42 wnaeth ymateb i'r cais.
Rheoli'n 'ofalus'
Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Heddlu Gwent, Steve Corcoran y bydd y broses o gasglu data yn cael ei reoli yn ofalus.
"Bydd y gwaith yn cael ei wneud a chaniatâd yr unigolyn neu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol er mwyn helpu gydag ymchwiliad troseddol difrifol."
"Bydd unrhyw wybodaeth sydd yn cael ei gasglu yn cael ei reoli yn ofalus a'i ddethol yn arbennig ar gyfer y digwyddiad dan sylw." meddai.
Achosion unigol
Nid yw Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud sylw ar hyn o bryd.
Pan ofynnwyd wrth Heddlu De Cymru fel rhan o'r cais o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth dywedodd y llu nad oedden nhw yn casglu gwybodaeth ynglŷn â'r defnydd o'r math yma o dechnoleg.
Dywedodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu fod y penderfyniad i lawr lwytho data ffôn yn cael ei wneud ar sail bob achos yn unigol.
Mae llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref yn dweud bod y llywodraeth yn "datgan yn glir bod pwerau'r heddlu angen bod yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn gyfreithiol."