Cyhoeddi enw parc dŵr newydd sy'n dod i'r Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae enw'r parc dŵr newydd sy'n dod i'r Rhyl wedi cael ei ddatgelu i'r cyhoedd.
Enw'r atyniad newydd gwerth £15m yw SC2.
Bydd y parc yn agor i'r cyhoedd yng ngwanwyn 2019 ac mae disgwyl iddo ddenu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i'r Rhyl bob blwyddyn.
Mae SC2 yn rhan o gynlluniau ehangach i ddatblygu ac adfywio ardal glan môr y dref.
Bydd 65 o swyddi yn cael eu creu yn y ganolfan newydd, sy'n cymryd lle'r Sun Centre gynt.
Mae SC2 yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda chyfraniadau gan Gyngor Tref Y Rhyl a Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal â'r parc dŵr, mae atyniadau llai yn cael ei datblygu ar hyd yr ardal glan môr gan gynnwys parc sglefrio newydd.
'Pennod gyffrous i'r dref'
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE, fod y gwaith o ddatblygu glan y môr yn dechrau siapio.
"Y gwaith ar SC2 yw'r gwaith diweddaraf mewn cyfres o brosiectau datblygu mawr," meddai.
"Mae'r gwaith o ailwampio Theatr y Pafiliwn ac agoriad bwyty 1891 eisoes wedi digwydd ac mae wedi gosod safon datblygu uchel.
"Mae hon yn bennod gyffrous i'r dref ac edrychwn ymlaen at weld prosiectau eraill yn dwyn ffrwyth dros y misoedd nesaf".
Bydd gan SC2 ofod dŵr 1,200 metr sgwâr, gyda reidiau dŵr y tu mewn a'r tu allan.
Yn ogystal â'r cyfleusterau dŵr bydd man ar gyfer gweithgareddau TAG Active, ystafelloedd ar gyfer partïon a chaffis i ddarparu adloniant.
'Gwella pob diwrnod'
Dywedodd Maer Y Rhyl, Alan James fod maint y buddsoddiad yn y dref i'w ganmol.
"Mae pob diwrnod yn gweld newid a gwelliant," meddai.
"Mae'r gwaith adfywio yn digwydd ym mhobman ar raddfa na welwyd o'r blaen - newidiadau fydd yn creu swyddi ac yn denu ymwelwyr.
"Mae SC2 yn rhan arloesol a chyffroes o ailddatblygiad Y Rhyl ac mae'r cyngor tref yn falch o allu cefnogi'r prosiect hynod werthfawr hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2017