Busnesau twristiaeth Cymru yn 'methu allan' ar nawdd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o fusnesau twristiaeth Cymru yn colli allan ar nawdd gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB).
Dywedodd yr FSB fod busnesau mawr yn hawlio mwyafrif yr arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer twristiaeth.
Yn ôl yr FSB, dydi brand Croeso Cymru ddim yn cael ei ystyried yn ddefnyddiol gan eu haelodau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn hapus i drafod argymhellion yr FSB mewn mwy o fanylder.
'Gwario £14m pob diwrnod'
Er beirniadaeth yr FSB, mae'r sefydliad yn credu fod gwelliant wedi bod dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae'r gwelliant yma'n cyd-fynd â chyflwyniad themâu blynyddol - thema eleni yw blwyddyn y môr.
Mae tua £14m yn cael ei wario gan ymwelwyr â Chymru pob diwrnod yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru - cyfanswm blynyddol o tua £5.1bn.
Daeth tua 9.3 miliwn o ymwelwyr o rannau eraill o'r DU i aros dros nos yng Nghymru yn 2016.
Mae'r FSB yn galw ar Lywodraeth Cymru a Croeso Cymru i weithio tuag at gynyddu hyd yr ymweliadau hyn, yn ogystal â faint sydd yn cael ei wario gan ymwelwyr.
Mewn adroddiad 'Croeso i Gymru', mae'r sefydliad yn argymell mwy o drafod rhwng y llywodraeth a'r sector dwristiaeth am y posibilrwydd o gyflwyno "treth twristiaeth".
Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar gynghorau i chwarae rhan fwy blaenllaw wrth gynllunio strategaethau twristiaeth.
Er bod rhywfaint o arian ar gael ar gyfer busnesau bach, mae nifer o'r cronfeydd mwyaf allan o'u cyrraedd, yn ôl yr FSB.
Ychwanegon nhw y byddai'n rhaid i'r rhan fwyaf o'r sefydliadau twristiaeth lleiaf ddyblu mewn maint er mwyn derbyn pres o'r cronfeydd hyn.
'Ymateb cadarnhaol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwaith yr FSB i gael gwell dealltwriaeth o fusnesau twristiaeth o fewn eu haelodau i'w groesawu.
"Mae'n dda gweld ymateb cadarnhaol i flynyddoedd thema Croeso Cymru a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd twristiaeth i'r economi.
"Mae'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i'r diwydiant dros y blynyddoedd diweddar - o frandio i isadeiledd i sgiliau - wedi helpu i roi twristiaeth Cymru ar seiliau cadarn ar lwyfan y DU ac yn rhyngwladol, ac fe fyddwn ni wrth gwrs yn barod i gwrdd â'r FSB i drafod yn adeiladol eu hargymhellion mewn mwy o fanylder.
"Mae twristiaeth yn cael ei gydnabod fel sector sylfaenol i'n Cynllun Gweithredu Economaidd, sy'n canolbwyntio nid yn unig ar ranbarthu ond ar roi'r diwydiant twristiaeth wrth galon ymgyrch parhaus i hybu a gwarchod lle Cymru yn y byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2017