Twristiaeth: 'Cymru angen gwneud y mwyaf o'i photensial'
- Cyhoeddwyd
Mae academydd blaenllaw wedi rhybuddio nad yw Cymru'n cyrraedd ei llawn botensial o ran denu ymwelwyr o dramor.
Mae gwyliau'r haf yn tueddu i fod yn brysur tu hwnt i dwristiaeth, diwydiant sy'n cyflogi hyd at 10% o bobl y wlad.
Ond yn ôl yr Athro Annette Pritchard o Brifysgol Met Caerdydd, mae canolfannau gwybodaeth i dwristiaid yn cael eu cau ar adeg pan mae angen mwy ohonynt.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates bod y "dyfodol yn ddigidol" pan mae'n dod at wybodaeth i ymwelwyr.
'Twristiaid i wario mwy'
Y llynedd, fe ddaeth dros filiwn o dwristiaid o dramor i Gymru, ond llwyddodd Yr Alban i ddenu 2.7m o ymwelwyr dros yr un cyfnod.
Mae'r sefyllfa hefyd yn wahanol o ran canolfannau gwybodaeth i dwristiaid, gyda 67 yn cael eu rhedeg gan Visit Scotland ond dim un gan y corff cyfatebol Croeso Cymru.
Yng Nghymru, mae'r dasg honno'n disgyn ar gynghorau lleol a pharciau cenedlaethol, ond yn ôl ymchwil gan raglen Week In Week Out mae nifer y canolfannau sy'n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan gynghorau wedi lleihau o 14 mewn pum mlynedd.
Mae'n golygu bod llai na 25 o ganolfannau twristiaid yn cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol bellach, gyda 10 cyngor ddim yn rhedeg unrhyw rai.
"Weithiau, mae ymwelwyr yn cael llond llaw o bamffledi mewn archfarchnad, neu leoliad gwybodaeth twristiaid bychan iawn, a dyw hynny ddim yn ddigon da," meddai'r Athro Pritchard.
"Wnawn ni fyth datblygu diwydiant bydenwog os 'dyn ni'n dibynnu ar y math yna o brofiad."
Ychwanegodd fod angen gwneud rhagor i ddenu ymwelwyr o dramor sydd yn gwario mwy.
"Dydyn ni ddim yn gwneud cystal yn rhyngwladol â'n cystadleuwyr - rydyn ni'n cael tua 3% o ymwelwyr a tua 2% o'r gwariant. Mae gennym ni tua 5% o'r boblogaeth, felly mae angen i ni fod yn anelu at hynny o ran twristiaeth o dramor.
"Mae angen buddsoddi rhagor mewn marchnata achos mae llawer llai yn gwybod amdanon ni felly mae angen adnoddau er mwyn i'ch brand chi gael ei weld ar lwyfan rhyngwladol.
"Dydych chi ddim jyst yn cystadlu yn erbyn Yr Alban ac Iwerddon, ond yn erbyn tua 170 o wledydd eraill yn y byd."
Un ardal sydd wedi gweld newid o ran gwybodaeth i dwristiaid ydy Gwynedd, lle roedd y cyngor yn arfer rhedeg pum canolfan ond bellach nid yw'n gyfrifol am un.
Mae Twristiaeth Gogledd Cymru bellach wedi cymryd cyfrifoldeb am y ddwy ym Mhorthmadog a Chaernarfon, ond dydyn nhw ddim yn gallu fforddio agor drwy'r amser.
"Rydyn ni wedi cael 3,000 o bobl drwy'r drws yma ym Mhorthmadog ers y Pasg," meddai Ambra Burls, sy'n gweithio yn y ganolfan yno.
"O ystyried ein bod ni ond ar agor ar y penwythnos rhwng 11 a 3, mae hynny'n adrodd cyfrolau am faint o bobl fyddai'n ei ddefnyddio mewn wythnos."
Yn ôl Ian Spindley, rheolwr marchnata gwesty'r Royal Sportsman ym Mhorthmadog, mae penderfyniad Cyngor Gwynedd i gau eu canolfan wedi effeithio ar fusnes.
"Bob wythnos, roedden ni'n cael tua pum argymhelliad i bobl aros... a dwsinau o argymhellion i bobl ddod i fwyta gyda ni - mae hynny wedi dod i ben dros yr 18 mis diwethaf," meddai.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, roedd toriadau i'w gyllideb yn golygu nad oedden nhw'n gallu rhedeg y canolfannau'n uniongyrchol mwyach, ond eu bod yn gweithio gyda grwpiau twristiaeth i gynnal y gwasanaeth.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod twristiaeth, fel gwasanaethau anstatudol eraill, yn cael eu gwasgu a bod gwariant yn y maes wedi gostwng 38% dros y saith mlynedd diwethaf.
'Cyfryngau cymdeithasol'
Fe wnaeth y ganolfan dwristiaid yng nghanol Caerdydd gau am gyfnod, gan adael dim ond un yn y Bae, cyn ailagor yn ddiweddar.
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, yn cyfaddef bod pwysau ariannol yn rhannol gyfrifol am y penderfyniad hwnnw.
Dywedodd Ken Skates ei fod hefyd yn cydnabod y pwysau ariannol ar gynghorau ond bod ffyrdd gwell o wario arian a marchnata Cymru i dwristiaid.
"Yn seiliedig ar dystiolaeth o Abertawe, y ffaith yw mai dim ond 1% o ymwelwyr i Abertawe ddaeth o hyd i wybodaeth drwy'r ganolfan wybodaeth. Mae angen edrych i'r dyfodol, nid y gorffennol, ac mae'r dyfodol yn ddigidol."
Ychwanegodd: "Bydd rhai'n dweud fod angen gwario mwy ar hysbysebion papur newydd, mwy ar hysbysebion teledu er mwyn denu mwy o ymwelwyr. Ond dyw hynny ddim wastad yn wir yn yr 21ain Ganrif.
"Y ffordd i farchnata gwlad, cynnyrch yw sicrhau ei fod yn dod i sylw biliynau o bobl drwy gyfryngau cymdeithasol, ac er mwyn gwneud hynny mae'n rhaid i chi fynd ati mewn ffordd wahanol, a bod yn greadigol."
Bydd Week In Week Out yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am 22:40 nos Fawrth, 11 Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2014