Ateb y Galw: Cyn-chwaraewr rygbi Cymru Stephen Jones
- Cyhoeddwyd
Stephen Jones, cyn-chwaraewr rygbi Cymru a hyfforddwr olwyr y Scarlets sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Peter Rees yr wythnos diwetha'.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Chwarae pêl-droed yn yr ardd gyda fy mrawd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Fy ngwraig. O'dd hi dwy flynedd yn iau na fi'n ysgol, ac fe wnes i briodi hi!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Torri ffenest drws cefn y tŷ yn chwarae pêl-droed.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Tra'n gwylio DIY SOS a Stand Up To Cancer Celebrity Bake Off.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Fi'n rhoi popeth yn y dishwasher! Hyd yn oed pethau sy' ddim i fod yna!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Unrhyw le yn y gorllewin - Cei Newydd yn un o'r ffefrynnau.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson ein priodas gyda'n teulu a ffrindiau i gyd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Fi'n joio byw!
O Archif Ateb y Galw:
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Outliers, Malcolm Gladwell, a hunangofiant John Wooden.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Keith Floyd ac Oliver Reed achos bydde'r bwyd yn grêt a'r storïau'n wych.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fi'n Cardi! (Ges i fy ngeni yn Aberystwyth.)
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cymryd fy anadl olaf!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Sosban Fach achos yr atgofion!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Prawn cocktail, stêc a chips, a sticky toffee pudding.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Roger Federer
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Andrew 'Tommo' Thomas