Gemau'r Gymanwlad: Efydd i Gymru yn y bowlio lawnt
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi ennill medal efydd arall yng Ngemau'r Gymanwlad yn dilyn gêm agos yn erbyn Yr Alban yn y bowlio lawnt.
Llwyddodd Gilbert Miles a Julie Thomas i ennill yn y parau cymysg B2/B3 gyda phêl olaf yr ornest, gan gipio'r fuddugoliaeth o 13-12.
Mae'n golygu bod gan Gymru bellach gyfanswm o 23 medal yng Ngemau Arfordir Aur - saith aur, wyth arian ac wyth efydd.
Bydd rhagor o fedalau yn dilyn yn nes ymlaen yn yr wythnos, wedi i nifer o'r bocswyr hefyd lwyddo yn eu gornestau ddydd Mercher.
Bydd Rosie Eccles yn ymladd am fedal aur wedi iddi ennill ei rownd gynderfynol 69kg, tra bod Mickey McDonagh, Sammy Lee a Lauren Price yn sicr o gael medalau efydd o leiaf.
Mae'n golygu fod Cymru'n saff o gael eu gemau mwyaf llwyddiannus erioed y tu allan i'r DU, gan drechu'r 25 medal gafodd eu hennill yn Auckland yn 1990.
Eu cyfanswm mwyaf erioed oedd y 36 gafodd eu hennill yng Ngemau'r Gymanwlad Glasgow yn 2014.