Medalau i'r reslwr Dodge a'r athletwraig Breen yn y Gemau

  • Cyhoeddwyd
Curtis DodgeFfynhonnell y llun, PA

Mae'r reslwr Curtis Dodge a'r athletwraig Olivia Breen wedi ennill medalau rhif 24 a 25 i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia.

Llwyddodd Dodge, wnaeth gystadlu yng nghamp Judo yng ngemau Glasgow, i ennill medal efydd yn y categori 74kg yn Arfordir Aur ar ôl trechu Ebimienfaqhe Assizecourt o Nigeria.

Ac yn ddiweddarach fore Iau, enillodd Olivia Breen 25ain medal y Cymry yn Awstralia, wrth iddi orffen yn y trydydd safle yn ras 100m categori T38.

Mae Cymru bellach wedi ennill saith medal aur, wyth arian a 10 efydd.

Mae'r tîm hefyd yn siŵr o ennill o leiaf pedair medal arall yn y bocsio, sy'n golygu eu bod yn sicr o gael eu gemau mwyaf llwyddiannus erioed y tu allan i'r DU, gan drechu'r 25 medal gafodd eu hennill yn Auckland yn 1990.

Disgrifiad o’r llun,

Olivia Breen yn ennill 25ain medal y Cymry fore Iau