Deiseb yn erbyn ailgartrefu anifeiliaid anwes Penparcau

  • Cyhoeddwyd
PenparcauFfynhonnell y llun, Google

Mae dros 2,600 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ganiatáu i breswylwyr tai cymdeithasol yng Ngheredigion gael cadw'u hanifeiliaid anwes.

Mae perchnogion cŵn a chathod ym Mhenparcau ger Aberystwyth yn dweud eu bod wedi cael gwybod gan Tai Ceredigion bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i gartrefi newydd i'w hanifeiliaid.

Dywedodd rhai tenantiaid eu bod wedi bod yn byw yno gyda'u hanifeiliaid ers sawl blwyddyn, a bod Tai Ceredigion yn llwyr ymwybodol o hynny.

Ond mae'r gymdeithas yn dweud bod pob tenant wedi wedi arwyddo cytundeb pan symudon nhw i'w cartrefi, yn dweud nad oedd anifeiliaid i fod i gael eu cadw mewn fflatiau sydd ag ardaloedd cymunedol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai tenantiaid yn poeni y bydd yn rhaid i'w hanifeiliaid anwes gael eu hailgartrefi

Mae'r gymdeithas yn dweud eu bod wedi dechrau ar gamau cyfreithiol yn erbyn nifer fechan o denantiaid sydd wedi gwrthod ailgartrefu eu hanifeiliaid anwes.

Mae'r preswylwyr yn dweud eu bod nhw ar ddeall bod y rheol ond yn cael ei gweithredu nawr yn dilyn digwyddiad pan gafodd un tenant ei gnoi gan ddaeargi.

Mae Claire Haddon yn byw yn un o'r fflatiau gyda'i chŵn, Pablo a Sam.

Yn ei barn hi, mae'n annheg fod pawb sy'n berchen ar anifail yn cael eu cosbi oherwydd bod un perchennog wedi bod yn anghyfrifol.

Dywedodd hefyd ei bod yn poeni y gallai camau cyfreithiol gael eu dwyn yn ei herbyn os yw hi'n gwrthod cael gwared o'i chŵn.

Dim cwyn swyddogol

Dywedodd Tai Ceredigion nad ydyn nhw wedi cael yr un gwyn swyddogol gan bobl ynglŷn ag ailgartrefu anifeiliaid anwes.

Mewn datganiad ar ei gwefan, mae'r gymdeithas yn dweud mai dim ond mewn achos eithafol y bydd tenantiaid yn colli eu cartref.

Mae hefyd yn dweud y gallai pobl fod wedi arwyddo'r ddeiseb oherwydd camargraff y bydd pob perchennog anifail yn cael eu troi allan o'u cartrefi.

Un dewis y mae'r gymdeithas yn ei awgrymu yw y gall perchnogion anifeiliaid anwes ymgeisio i gael symud i eiddo arall.