Peiriannau gwerthu bwyd a diod lleol yng Ngwynedd?
- Cyhoeddwyd
![peiriannau fendio](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F111/production/_100831716_69cf84dd-2a16-4998-9bd6-c17ad3383ecf.jpg)
Peiriannau gwerthu tebyg i'r rhain fyddai'n cael eu defnyddio er mwyn darparu'r cynnyrch lleol i gwsmeriaid
Mae sefydliad o Wynedd yn gobeithio lansio cynllun newydd ble byddan nhw'n gwerthu cynnyrch bwyd a diod lleol, a hynny drwy ddefnyddio peiriannau gwerthu.
Er mwyn cael y cynllun ar ei draed, maen nhw wedi galw ar gynhyrchwyr bwyd a diod o bob math i gysylltu gyda nhw os oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn rhoi eu cynnyrch yn y peiriannau.
Bwriad Arloesi Gwynedd Wledig ydy rhedeg cynllun peilot o fis Mehefin tan fis Tachwedd lle bydd y peiriannau'n cael eu gosod mewn llefydd gwahanol.
"Peilota cynllun peiriant fendio cynnyrch lleol ydan ni, lle bydd 'na gyfle i werthu cynnyrch lleol o Wynedd mewn ffordd arloesol ac yn uniongyrchol i gwsmeriaid," meddai Rachel Roberts, swyddog prosiect gyda'r fenter.
![rachel roberts](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A2F1/production/_100831714_rachelrobertsarloesigwyneddwledig.jpg)
Does neb arall yn y gogledd yn gwneud rhywbeth fel hyn, yn ôl Rachel Roberts
Ychwanegodd: "Mae hwn yn agored i unrhyw gynnyrch bwyd neu ddiod sydd wedi ei gynhyrchu yng Ngwynedd.
"Does 'na neb yng Ngwynedd na gogledd Cymru'n gwneud rhywbeth fel hyn, a hwn fydd y cyntaf ac yn cael ei dreialu ganddom ni."
Un busnes sydd eisoes wedi dangos diddordeb yn y cynllun ydy Llaethdy Llŷn.
Mae Sion a Nia Jones yn ffermio ym Madryn Isaf ger Boduan ac yn godro hyd at 80 o wartheg, gan botelu a gwerthu eu llaeth eu hunain yn uniongyrchol i gwsmeriaid ers tua blwyddyn a hanner.
"Dwi'n meddwl bod o'n syniad da iawn achos mae cynnyrch lleol... dim jyst ni ond bod 'na griw ohonom ni'n medru cynnig bwydydd a diodydd mewn vending machine sydd ar gael i bawb ac ella mewn ardaloedd 'dan ni ddim yn gwerthu ar hyn o bryd," meddai Nia Jones.
"Mae pobl yn dymuno cael cynnyrch lleol ac mae'n busnes ni'n tyfu."