Gemau tramor mwyaf llwyddiannus Cymru erioed

  • Cyhoeddwyd
Laura HalfordFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae tîm Cymru wedi gosod record newydd o ran medalau wedi eu hennill y tu allan i'r DU.

Roedd medal arian i Laura Halford yn y gymnasteg rhythmig yn ddigon i dorri'r record flaenorol o 25, a osodwyd yng ngemau Auckland 1990.

Llwyddodd y reslwr Kane Charig i ennill medal arian yn y gystadleuaeth reslo dull rhydd 65kg hefyd.

Ychwanegodd y saethwraig Sarah Wixey a'r bocsiwr Mickey McDonaugh at gyfanswm medalau Cymru, y ddau yn cipio medalau efydd.

Mae Cymru bellach wedi ennill cyfanswm o 29 medal: saith medal aur, 10 arian a 12 efydd.

Disgrifiad o’r llun,

Sarah Wixey yn dathlu ennill medal efydd

Mae'r tîm hefyd yn siŵr o ennill o leiaf pedair medal arall yn y bocsio a'r reslo.

Byddai'r medalau hyn yn mynd a thîm Cymru yn agosach at uchafswm y wlad yn y gemau, sef 36 yn Glasgow 2014.