Galw am drafod cael palas brenhinol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Gallai Cymru fod ar ei hennill o £36m o ganlyniad i wariant gan dwristiaid pe bai palas brenhinol yn agor yng Nghymru, yn ôl adroddiad.
Dywedodd melin drafod Gorwel y dylai Cymru ystyried cael cartref brenhinol, gan ddweud y gallai ddenu miloedd o ymwelwyr.
Mae'r gohebydd brenhinol, Brian Hoey wedi ei ddisgrifio fel "syniad ardderchog", ond mae'r adroddiad yn cydnabod y gallai nifer ei weld fel rhywbeth diangen.
Dywedodd Plaid Werdd Cymru, sy'n gwrthwynebu'r frenhiniaeth, bod yr adroddiad yn gor-ddweud yr hwb i dwristiaeth fyddai'n cael ei greu.
Cymru yw'r unig wlad yn y DU ble nad oes cartref swyddogol ar gyfer aelod o'r teulu brenhinol.
Dywedodd adroddiad y felin drafod annibynnol y byddai cael palas brenhinol yma'n arwain at fudd gwleidyddol ac economaidd, a chreu hyd at 100 o swyddi.
Ychwanegodd y gallai fod gwerth hyd at £3.6m pob blwyddyn i'r diwydiant twristiaeth, ac y gallai arwain at hyd at £2.4m ychwanegol mewn gwariant anuniongyrchol.
'Cynyddu proffil Cymru'
Ond mae awduron yr adroddiad, yr athrawon Russell Deacon a Scott Prosser, yn dweud y gallai'r palas gael ei ystyried yn ddiangen mewn cyfnod o lymder.
Maen nhw hefyd yn cydnabod y gallai dynnu ymwelwyr o safleoedd eraill yng Nghymru, a bod y costau o sefydlu a rhedeg y palas yn golygu y byddai'n "annhebygol o fod yn fenter hynod o broffidiol".
Dywedodd y gohebydd brenhinol, Brian Hoey y byddai palas brenhinol yn "cynyddu proffil Cymru nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond trwy'r byd".
"Bydden ni wedyn yn cael yr un llwyfan â Gogledd Iwerddon, Yr Alban a rhannau o Loegr wrth gwrs," meddai.
Er nad oes cartref brenhinol swyddogol yng Nghymru, mae gan Dywysog Cymru ystâd breifat yn Llwynywermwd, Sir Gâr.
Dywedodd arweinydd Plaid Werdd Cymru, Grenville Ham ei fod o'r farn bod y budd i'r economi wedi'i "or-ddweud o lawer".
"Mae gennym ni 600 o gestyll yng Nghymru, mae gennym ni fynyddoedd sy'n denu pobl yma," meddai.
"Dydw i ddim yn meddwl bod y teulu brenhinol angen cartref arall - mae ganddyn nhw ddigon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018