Techneg 'arloesol' ôl bysedd yn dal deliwr cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Llun ecstasiFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y llun yma gafodd ei yrru gan Elliott Morris i gwsmeriaid posib ym Mhen-y-bont

Mae techneg ôl bysedd arloesol gafodd ei ddefnyddio i helpu dedfrydu gang cyffuriau wedi gweddnewid sut mae'r heddlu'n ystyried tystiolaeth.

Cafodd llun o ddyn yn dal tabledi ecstasi yn ei law ei ganfod ar ffôn rhywun oedd wedi ei arestio ym Mhen-y-bont.

Fe gafodd y llun ei yrru i uned wyddonol Heddlu De Cymru, gan i arwain at ddedfrydu 11 o bobl.

Dyma'r euogfarnau cyntaf yng Nghymru i gael eu sicrhau gyda help ôl bysedd gafodd eu canfod ar lun.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y llun helpu i ddal Elliott Morris, ei fam Dominique a'i dad Darren

Dywedodd Dave Thomas o'r uned wyddonol bod y dechneg yn "arloesol" a bod mwy o swyddogion nawr yn edrych ar luniau ar ffonau troseddwyr am dystiolaeth.

"Mae cymryd olion bysedd yn dechneg hen ffasiwn, ond mae'r dechnoleg yma'n ei wneud yn fodern," meddai.

Daeth y llun i feddiant yr heddlu ar ôl iddyn nhw gael gwybod gan aelod o'r cyhoedd bod cyffuriau'n cael eu gwerthu o dŷ yn ardal Mynyddcynffig ym Mhen-y-bont.

Roedd ffôn symudol yn y tŷ, ac fe wnaeth un swyddog weld neges WhatsApp gan rywun oedd yn cynnig tabledi ecstasi.

Roedd llun gan y person hefyd, yn dangos y cyffuriau oedd yn cael eu cynnig yn ei law.

Disgrifiad o’r llun,

Dave Thomas gyda'r llun wnaeth helpu sicrhau euogfarn Elliott Morris

Llwyddodd yr uned cefnogaeth wyddonol - menter ar y cyd rhwng lluoedd Gwent a De Cymru - i gael rhannau o ôl bysedd o'r llun.

Gan mai dim ond rhannau o rai bysedd oedd i'w gweld yn y llun, doedden nhw ddim yn gallu ei ddefnyddio i chwilio'r gronfa ôl bysedd cenedlaethol.

Ond roedd tystiolaeth arall yn awgrymu mai Elliott Morris oedd y person y tu ôl i'r llun ac ar ôl iddyn nhw ei gwestiynu fe wnaethon nhw brofi mai ei law ef oedd yn y llun.

"Roedd safon y llun yn her, ond roedd y rhannau bychan o'r olion oedd yn dangos yn ddigon i brofi mai ef oedd y deliwr," meddai Mr Thomas.

"Nawr pan mae rhan o law mewn llun mae heddweision yn eu gyrru nhw aton ni."