Dunbia yn cau safle prosesu cig Felinfach, Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
dunbiaFfynhonnell y llun, Google

Mae cwmni prosesu cig Dunbia wedi cadarnhau eu bod yn cau eu safle yn Felinfach yng Ngheredigion ym mis Mai eleni.

Mae Grŵp Dunbia, sy'n cynnwys partneriaeth gyda chwmni Dawn, hefyd yn berchen ar safleoedd yn Llanybydder a Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin, tra bod cytundeb prydles ganddynt ar ffatri Felinfach yn Nyffryn Aeron.

Dywedodd y cwmni bod pob gweithiwr ar safle Felinfach wedi cael cynnig adleoli, ond nad oedd pob un wedi derbyn.

Roedd y cwmni o Iwerddon, sy'n cyflogi dros 1,100 o bobl yng ngorllewin Cymru, wedi dweud yn gynharach eleni fod adroddiadau yn y wasg am ddiswyddiadau posib yn anghywir.

Roedd y cwmni yn ymateb i straeon yn y wasg fod pryder ynglŷn â swyddi dros 170 o weithwyr Felin-fach yn Nyffryn Aeron.

Prydles yn dod i ben

Dywedodd Dunbia eu bod wedi cael rhybudd gan berchnogion y safle fod y brydles yn dod i ben, ac na fyddai'n cael ei adnewyddu.

Mae'r cwmni wedi cynnal ymgynghoriad gyda staff, gan gynnig gwaith llawn amser ar y safleoedd eraill i'r holl weithlu o 141 o bobl.

Fe fydd 107 aelod o staff yn symud i safle'r cwmni yn Cross Hands, ond mae 34 aelod wedi gwrthod, a byddan nhw'n derbyn pecynnau diswyddo.

Dywedodd Dunbia y byddai'n trefnu gwasanaeth bws i gludo gweithwyr i Cross Hands, a bydd taliadau cefnogol yn cael eu gwneud i ddigolledu gweithwyr am unrhyw anghyfleustra.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Helen Rees, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Dunbia: "Mae Felinfach yn cau oherwydd amgylchiadau sydd tu hwnt i'n rheolaeth.

"Rydym wedi gwneud ymdrechion sylweddol i gynnig opsiynau cyflogaeth i'n staff ac i'w cefnogi drwy'r newid hwn.

"Rydym wrth ein bodd bod y mwyafrif o weithwyr Felinfach wedi dewis aros gyda'r cwmni - byddai'n well gennym fod wedi cadw'r holl staff yn y broses, ond rydym ni'n deall nad yw'r adleoli yn addas i'r holl weithwyr."