Disgwyl i'r cyfeirio'r Mesur Parhad at y Goruchaf Lys

  • Cyhoeddwyd
Alun CairnsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Cairns ei fod yn "obeithiol" y bydd y ddwy lywodraeth yn gallu cyrraedd cytundeb

Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl y bydd Llywodraeth y DU yn cyfeirio cyfraith gafodd ei basio yn y Cynulliad at y Goruchaf Lys.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru yn gynharach ddydd Llun bod Llywodraeth San Steffan wedi cymryd penderfyniad "mewn egwyddor" am a fyddan nhw'n cyfeirio'r Mesur Parhad at lys uchaf y DU.

Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud y bydd y llywodraeth yn "amddiffyn i'r carn" y mesur pe bai'n cael ei herio.

Pe bai'r Mesur Parhad yn cael ei gyfeirio at lys uchaf y DU, dywedodd Alun Cairns y dylai'r Cynulliad ei ystyried fel ymgais i gael eglurder cyfreithiol, yn hytrach na her wleidyddol.

Fis diwethaf fe wnaeth ACau basio'r Mesur Parhad ymysg ffrae rhwng gweinidogion yng Nghaerdydd a San Steffan am effaith Mesur Gadael yr UE ar bwerau'r Cynulliad.

Ond dywedodd Mr Cairns ei fod yn "obeithiol" y bydd y ddwy lywodraeth yn gallu cyrraedd cytundeb.

'Pryderon teg'

Dan gynnig diweddaraf Llywodraeth y DU byddai'r mwyafrif o bwerau datganoledig yn dychwelyd i Gaerdydd, Caeredin a Belfast ar ôl Brexit, tra bydd y gweddill yn cael eu dal yn San Steffan dros dro.

Ond mae llywodraethau Cymru a'r Alban yn dweud bod y cynigion hynny yn "ymgais i gipio pwerau" a bod angen cytundeb gan bawb ar unrhyw symud pwerau.

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor Cynulliad ddydd Llun dywedodd Mr Cairns bod Llywodraeth y DU yn "ceisio cyrraedd safle fydd yn bodloni pryderon teg Llywodraeth Cymru".

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'n gallu awgrymu i'r Cynulliad gymeradwyo Mesur Gadael yr UE.

'Eglurder, nid her'

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai'n digwydd pe bai ACau'n pleidleisio yn erbyn y mesur, fe wnaeth Mr Cairns dynnu sylw at Gonfensiwn Sewel - cytundeb gwleidyddol sy'n golygu na fydd Llywodraeth y DU yn deddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru heb eu cydsyniad.

Dywedodd bod San Steffan erioed wedi torri'r confensiwn, a bod hynny "oherwydd y parch rydyn ni'n ei ddangos i drefn gyfansoddiadol y DU".

Yn dilyn adroddiadau bod disgwyl i Lywodraeth y DU gyfeirio Mesurau Parhad llywodraethau Cymru a'r Alban at y Goruchaf Lys, dywedodd Mr Cairns bod "penderfyniad wedi'i gymryd mewn egwyddor" ond bod hyn yn dal i gael ei drafod gan swyddogion cyfreithiol.

"Os mai cyfeirio at y Goruchaf Lys yw'r penderfyniad, dylai hyn gael ei ystyried fel ymgais i gael eglurder yn hytrach nac unrhyw her am beth sydd yn y mesur," meddai.