AC UKIP yn gwario £10,000 ar swyddfa wnaeth ddim agor

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bennett wedi bod yn AC dros ranbarth Canol De Cymru ers 2016

Mae AC UKIP wedi gwario bron i £10,000 o arian cyhoeddus mewn rhent a chostau eraill ar swyddfa yn ei etholaeth wnaeth erioed agor.

Dywedodd Comisiwn y Cynulliad ei fod yn gweithio i adfer rhan o'r arian gafodd ei wario ar y swyddfa roedd Gareth Bennett yn bwriadu ei hagor ym Mhontypridd.

Mae'r aelod dros ranbarth Canol De Cymru wedi dweud mai problemau gyda'r landlord oedd y rheswm pam na chafodd y swyddfa ei hagor.

Dywedodd llefarydd ar ei ran ei fod wedi gwario £4,500 o'i boced ei hun i ddod â'r brydles i ben.

Ffrae â'r landlord

Roedd y costau'n cynnwys mwy na £5,100 o rent, mwy na £2,000 ar gyfer deunydd adeiladu ac o leiaf £1,500 ar waith cyfreithiol.

Mae'r cofnod treuliau'n dangos ei fod wedi hawlio o leiaf £9,972 ar gyfer swyddfa yn ei etholaeth.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Bennett eisiau agor swyddfa ar hen safle clwb nos Angharad's ym Mhontypridd

Fe wnaeth Mr Bennett arwyddo prydles am y swyddfa ar Stryd Fawr Pontypridd ar 24 Mawrth 2017, ond dywedodd ei lefarydd bod dŵr wedi dechrau dod i mewn i'r adeilad.

Yn ôl y llefarydd fe wnaeth y landlord wrthod cywiro'r broblem gan ddweud mai cyfrifoldeb y tenant oedd hynny, er nad oedd staff Mr Bennett wedi symud i mewn i'r swyddfa.

"Fe wnaethon ni ddechrau achos cyfreithiol yn erbyn y landlord ac fe lwyddon ni i ddod â'r brydles i ben yn gynnar," meddai'r llefarydd.

'Y treuliau'n gymwys'

Ychwanegodd bod Mr Bennett wedi penderfynu rhedeg ei swyddfa o'r Cynulliad, ac y bydd hynny'n "arbed arian yn y pendraw".

Dywedodd llefarydd o Gomisiwn y Cynulliad bod y sefydliad yn "fodlon bod holl dreuliau Mr Bennett ar gyfer y swyddfa yn ei etholaeth yn gymwys".

Ychwanegodd bod tîm wedi bod yn "gweithio gyda swyddfa Mr Bennett i adfer rhai o'r costau o ganlyniad i ddod â'r brydles i ben yn gynnar".

Fe wnaeth y llefarydd wrthod cadarnhau os oes y mater wedi'i gyfeirio at Gomisiynydd Safonau annibynnol y Cynulliad, a pha gostau y maen nhw'n ceisio adfer.