Sut mae cefnogi eich plant drwy gyfnod yr arholiadau

  • Cyhoeddwyd

Mae adolygu ar gyfer arholiadau yn amser heriol iawn i ddisgyblion a'u teuluoedd. Un sy'n byw'r profiad am yr ail dro ydy'r gantores ac actores Catrin Brooks. A hithau'n fam i ddwy ferch, mae'n cyfadde iddi golli cwsg yn poeni, ac yma mae'n rhoi cyngor i rieni eraill sut i ymdopi â'r straen:

Ffynhonnell y llun, Catrin Brooks
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Brooks a'i merch Betsan

O'm mhrofiad i, y person dwetha' mae'r plentyn eisiau clywed cyngor wrtho ydy'r rhieni. Felly y peth gorau all y rhieni wneud ydy eu cefnogi a bod yna iddyn nhw pan maen nhw dy angen di.

Er fy mod i wedi bod trwy hyn gyda fy merch hynaf Mabli, sydd yn y coleg erbyn hyn, beth dwi'n sylweddoli ydy bod y pethau wnaeth weithio iddi hi ddim o reidrwydd yn mynd i weithio gyda fy ail ferch, Betsan, sy'n sefyll arholiadau TGAU eleni.

Mae pob plentyn mor wahanol i'w gilydd, mae ffordd fy ddwy ferch i o adolygu yn wahanol iawn.

Y tro cyntaf, fe wnes i dabl enfawr a grids a'r syniad oedd bod Mabli'n gweld cynnydd yn yr adolygu. O'n i bron a mynnu bod Betsan yn gwneud yr un peth ond doedd e ddim yn mynd i weithio iddi hi.

Roedd yn rhaid i fi barchu hynna a gadael iddi hi ddewis ei ffordd ei hunan.

Dwi lot yn well yr ail dro rownd, ond y peth pwysica' i wneud ydy i beidio cymharu eich plentyn chi â brawd neu chwaer, neu blentyn rhywun arall.

Colli cwsg

Dwi wedi colli cwsg dros yr arholiadau, alli di ddim â help ond poeni am dy blant a meddwl a ydyn nhw wedi dechrau adolygu yn ddigon buan, a ydyn nhw'n 'neud digon?

Es i trwy gyfnod lle o'n i'n stressed iawn a dechreuodd y sgwrsio am yr arholiadau yn y tŷ, ac wedyn fe wnes i hala fy merch yn stressed yn meddwl am y peth, a doedd hynny ddim yn beth da.

Erbyn hyn, dwi wedi camu nôl ac mae popeth i weld yn iawn.

Disgrifiad,

Cyngor adolygu cyn arholiadau

Yn draddodiadol, mae rhywun yn adolygu wrth y ddesg yn yr ystafell wely yn grwm dros y gwaith, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i amrywio'r gwaith ac i dreulio amser yn adolygu gyda ffrindiau yn ogystal â'r ffordd draddodiadol.

Un peth dwi wedi gwneud ydy peidio â sôn lot am TGAU yn y tŷ. Fi'n anfon negeseuon at Betsan ar Messenger, felly mae'r sgwrs yn digwydd, ond unwaith r'yn ni yn yr un ystafell, does dim rhaid i ni sôn amdano fe, mae'n cadw'r straen mas o'r tŷ.

Dwi'n anfon negeseuon, cyngor, lincs i fideos perthnasol dwi wedi gweld ar YouTube ac yn y blaen. Os ti'n anfon neges yn hytrach na dechre'r sgwrs wyneb yn wyneb, gall e ddim troi mewn i ddadlau wedyn.

Gyda thechnoleg, mae'n anodd. Dwi'n nabod pobl sydd wedi tynnu'r ffôn wrth eu plant adeg yr adolygu, ond mae plant yn defnyddio'r ffôn a'r cyfrifiadur i wneud eu gwaith a ffeindio gwybodaeth, felly mae'n fine line ac mae angen y trust yna rhwng y rhiant a'r plentyn i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gweithio.

Os wyt ti'n mynd â phaned o de iddyn nhw yn rheolaidd, rwyt ti'n dangos cefnogaeth iddyn nhw ond hefyd mae'n rhoi tawelwch meddwl i ti fel rhiant o'u gweld nhw wrthi.

Mae'n bwysig hefyd i edrych ymlaen a thrafod y pethau sydd i ddod dros yr haf ar ôl yr arholiadau, mae Betsan yn lwcus iawn i fod yn cael y cyfle i fynd i weithio'n wirfoddol fel swog gyda chriw o ffrindiau mewn gwersyll yn Sbaen. Mae hi a'i ffrindiau hefyd yn gyffrous iawn am Maes B yng Nghaerdydd eleni.

Dwi'n teimlo drostyn nhw, ond does dim byd mwy elli di wneud fel rhiant na chefnogi dy blentyn. Elli di ddim sefyll yr arholiadau drostyn nhw. Ond oherwydd mod i wedi camu nôl, i raddau, mae fy merch eisiau ei wneud e dros ei hun.