Nôl i'r 80au gyda chast gwreiddiol Teilwng Yw'r Oen

  • Cyhoeddwyd
Teilwng Yw'r OenFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Griffiths a Sonia Jones a chantorion ifanc Teilwng Yw'r Oen

Mae fersiwn newydd o Teilwng Yw'r Oen, addasiad modern o'r Meseia gan Handel, yn cael ei pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 - dros 30 mlynedd ers i'r fersiwn Gymraeg gyntaf ymddangos ar S4C.

Mae'r addasiad, sy'n cynnwys cerddoriaeth gan Mei Gwynedd, gynt o'r Sibrydion a Big Leaves, a John Quirk, a geiriau gan John Gwilym Jones, yn cael ei berfformio yng Nghanolfan y Mileniwm ar nos Sul 5 Awst.

Ond yn 1984 roedd y trefniant roc o'r gwaith crefyddol clasurol, gyda gitârs trydan a drymiau, yn newydd i gynulleidfa'r sianel ifanc yng Nghymru.

Roedd merch ifanc o Lanelli, Sonia Jones, yn wyneb newydd hefyd pan gafodd ei chastio yn un o'r prif rannau gyda Geraint Griffiths a Sue Jones-Davies.

Ond byddai nifer wedi clywed ei llais yn barod.

Roedd gan Sonia Jones a Sue Jones-Davies gysylltiad annisgwyl gyda ffilm gwlt Life Of Brian, Monty Python: Sue Jones-Davies oedd yn chwarae rhan Judith Iscariot, cariad Brian yn y ffilm a Sonia Jones, yn ddim ond 16 oed, oedd yn canu'r gân agoriadol, Brian Song.

Dynwared Shirley Bassey

Damwain a hap oedd i Sonia recordio cân agoriadol y ffilm, meddai.

Roedd hi wedi cael cytundeb recordio gyda EMI ac yn recordio yn yr un stiwdio â chriw Monty Python ar y pryd.

"Daeth Terry Gilliam i mewn a dweud: 'Ti'n Gymraes, wnei di ddod i ganu'r gân yma inni? Rydyn ni'n mynd i'w rhoi hi i Shirley Bassey'," meddai o'i chartref yn Llundain, ble mae hi wedi byw ers 34 mlynedd.

"Felly es i mewn a chanu cân Brian. Ro'n i'n gwneud llais gwirion ac yn ceisio dynwared sut roeddwn i'n meddwl oedd Shirley Bassey yn swnio!"

Doedd hi ddim yn eu credu pan ddywedon nhw eu bod am ddefnyddio ei recordiad hi yn lle.

Wedi bod yn canu'n broffesiynol ers ei harddegau, roedd Sonia yng nghast y sioe Saesneg gwreiddiol o addasiad Tom Parker, The Young Messiah, oedd wedi bod yn llwyddiant mawr.

"Daeth David [Richards, y cynhyrchydd] at Tom Parker i ddweud eu bod eisiau gwneud fersiwn Gymraeg ac fe wnaeth Tom fy argymell i am fy mod i o Gymru," meddai.

Ffynhonnell y llun, Sonia Jones/James Last Orchestra
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sonia Jones hefyd wedi bod yn brif leisydd y James Last Orchestra ers dros 25 mlynedd

Fe gafodd Sonia help i ynganu rhai o'r geiriau a'r ymadroddion Cymraeg.

"Dim ond Cymraeg roedd fy mamgu'n gallu ei siarad, roedd fy nhad yn rhugl a mam yn gallu rhywfaint ond doedd dim gwersi Cymraeg yn yr ysgol pan oeddwn i'n fach, doedd e ddim yn orfodol," meddai.

"Mae'n rhywbeth rwy'n gandryll amdano - doedd e ddim yn cŵl i ddysgu Cymraeg ar y pryd, fel arall fe fyddwn i'n actio neu'n cyflwyno yn Gymraeg yng Nghymru erbyn hyn mae'n siŵr!

"Ond doedd fy Nghymraeg ddim yn ddigon da i hynny - ond roedd yn ddigon da i Teilwng Yw'r Oen."

Mae'n bosib eich bod wedi clywed llais Sonia ar sawl hysbyseb, jingl Toys R Us er enghraifft, neu fel llais cefndir i rai o fandiau mwya'r byd dros y blynyddoedd.

Mae wedi canu gydag artistiaid fel The Rolling Stones, The Who, Annie Lennox, Cliff Richards a Tom Jones ac fel prif leisydd y James Last Orchestra am dros 25 mlynedd.

Heddiw mae'n gweithio fel hyfforddwr llais, gyda'r gantores bop Rita Ora ymysg ei chleientiaid.

Yn wreiddiol o Sir Benfro symudodd Sue Jones-Davies nôl i Gymru o Lundain yn ddiweddarach gan ailafael yn ei Chymraeg a dod yn faer tref Aberystwyth lle mae'n dal i fyw ac yn ymwneud â bywyd gwleidyddol y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Fel maer Aberystwyth cynhaliodd Sue Jones-Davies - yma gyda Terry Jones a Michael Palin - o ddangosiad arbennig o'r ffilm yn y dref yn 2009

Lawnsio gyrfa broffesiynol

Roedd Geraint Griffiths yn adnabyddus fel prif ganwr y band Eliffant ond roedd y cyn nyrs yn dal i weithio i awdurdod iechyd pan gafodd ran yn Teilwng Yw'r Oen.

"Fe wnaeth Teilwng Yw'r Oen agor drysau imi a ges i gyfle i fynd yn llawn-amser wedyn," meddai Geraint.

"Wnaeth Sain gynnig albym i fi ar sail y sioe ac ar ôl hynny ges i gynnig gwneud cyfres o chwech rhaglen ar S4C a dyna beth ddechreuodd fy ngyrfa i fel canwr proffesiynol."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi ddim yn cofio cael dim ymarfer, cwpl o 'run-throughs' wedyn mynd amdani!" meddai Geraint Griffiths

Sawl albym yn ddiweddarach, a chyda gyrfa fel actor dan ei felt hefyd, mae Geraint Griffiths bellach wedi ymddeol ac yn byw yng Nghaerfyrddin.

Ond mae ei ferch, Elin, yn cadw'r cof am Teilwng Yw'r Oen yn fyw i'w wyrion drwy chwarae'r albwm iddyn nhw yn y car.

"Bachgen a Aned yw eu ffefryn!" meddai Geraint.

"Mae'r gerddoriaeth wedi goroesi, maen nhw'n ganeuon gwych. Mae tiwns da gydag e, dim dowt!"

Hefyd ar Cylchgrawn: