Y Scarlets a'r Gleision yn anelu am ffeinal Ewropeaidd

  • Cyhoeddwyd
Scarlets a GleisionFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dydd Sadwrn yn ddiwrnod enfawr i ddau o ranbarthau rygbi Cymru, gyda'r Scarlets a'r Gleision yn ceisio hawlio eu lle yn rowndiau terfynol cwpanau Ewropeaidd.

Bydd y Scarlets yn teithio i Stadiwm Aviva yn Nulyn i herio Leinster yn rownd gynderfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop, gyda'r gic gyntaf am 15:30.

Ond cyn hynny mae'r Gleision yn croesawu Pau i Barc yr Arfau wrth iddyn nhw geisio ennill eu lle yn ffeinal Cwpan Her Ewrop.

Mae Dan Jones yn cadw ei le fel maswr i'r Scarlets ar gyfer y gêm hollbwysig, sy'n golygu bod Rhys Patchell yn dechrau fel cefnwr, a Leigh Halfpenny'n symud i'r asgell dde.

Mae'r clwb o Lanelli wedi penderfynu rhoi chwe blaenwr a dau olwr ar y fainc, gyda'r blaenasgellwr James Davies yn gallu cael ei ddefnyddio fel olwr os oes angen - fel ddigwyddodd yn rownd yr wyth olaf yn erbyn La Rochelle.

Dyw'r Scarlets ddim wedi cyrraedd y rownd gynderfynol yng Nghwpan Ewrop ers 2007, a dyma fyddai'r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd y ffeinal.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rhys Patchell yn dechrau yn safle'r cefnwr yn Nulyn

Mae Jarrod Evans yn cadw crys y maswr i'r Gleision i herio'r Ffrancwyr, Pau, gyda Gareth Anscombe yn aros fel cefnwr.

Mae'r prop Gethin Jenkins a'r bachwr Kristian Dacey hefyd yn dechrau wedi iddyn nhw basio profion ffitrwydd.

Er mai am dlws Cwpan Her Ewrop maen nhw'n anelu y tymor yma, mae'r rhanbarth eisoes wedi sicrhau y byddan nhw'n cystadlu yn y Cwpan Pencampwyr y tymor nesaf.

Mae'r ddau dîm wedi wynebu ei gilydd ddwywaith yn y gorffennol - yn eu grŵp yn yr un gystadleuaeth y llynedd - a'r Cymry oedd yn fuddugol ar y ddau achlysur.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bachwr Kristian Dacey yn dechrau i'r Gleision ar ôl pasio prawf ffitrwydd

Pe bai'r Scarlets yn ennill fe fyddan nhw'n wynebu un ai Racing 92 neu Munster yn y rownd derfynol yn Bilbao, Sbaen, ar 12 Mai.

Byddai'r Gleision yn herio Caerloyw neu Newcastle yn ffeinal y Cwpan Her pe bai nhw'n fuddugol ddydd Sadwrn - gêm sy'n cael ei chynnal yn yr un ddinas ddiwrnod ynghynt.

Tîm y Scarlets i herio Leinster

Patchell; Halfpenny, S Williams, Parkes, S Evans; D Jones, G Davies, R Evans, Owens (c), Lee, Beirne, Bulbring, Shingler, J Davies, Barclay.

Eilyddion: Elias, D Evans, Kruger, Rawlins, Cummins, A Davies, Hughes, Boyde.

Tîm y Gleision i herio Pau

Anscombe; Cuthbert, Lee-Lo, Halaholo, Lane; J Evans, T Williams; G Jenkins (c), Peikrishvili, S Davies, Turnbull, Navidi, E Jenkins, N Williams.

Eilyddion: Myhill, Gill, Andrews, Welch, Robinson, L Williams, Smith, Morgan.