Criced: Dechrau da i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
De LangeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe gipiodd Marchant de Lange bum wiced ar y diwrnod cyntaf

Marchant de Lange oedd seren tîm criced Morgannwg ar eu diwrnod cyntaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd 2018 ym Mryste ddydd Gwener.

Fe gipiodd y bowliwr cyflym bum wiced wrth i'r ymwelwyr ddod â batiad cyntaf Sir Gaerloyw i ben am 236.

Ni wnaeth yr un o fatwyr y tîm cartref gyrraedd yr hanner cant, ac fe ddaeth cyfraniadau o dair wiced gan Lukas Carey a dwy gan Michael Hogan yn siŵr o hynny.

Wrth ymateb, fe sgoriodd Nick Selman 17 h.f.a. i sicrhau bod Morgannwg yn cyrraedd 26 heb golled yn eu batiad cyntaf nhw.

Fe fyddan nhw'n dechrau'r ail ddiwrnod 210 y tu ôl i gyfanswm Sir Gaerloyw gyda 10 wiced mewn llaw.

Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd: Sir Gaerloyw v. Morgannwg - Bryste

Sir Gaerloyw (batiad cyntaf) - 226 (De Lange 5 am 62)

Morgannwg (batiad cyntaf) - 26 heb golled