Siop newydd yn 'garreg filltir' yn hanes adfywio tref

  • Cyhoeddwyd
Gwaith adeiladu siop Trago MillsFfynhonnell y llun, Kier Construction
Disgrifiad o’r llun,

Fe gymrodd 18 mis i godi siop Trago Mills ym Merthyr

Mae siop adrannol gwerth £65m yn agor ddydd Sadwrn - datblygiad sy'n cael ei ddisgrifio fel carreg filltir yn hanes adfywiad Merthyr Tudful.

Bydd siop ddisgownt Trago Mills yn cyflogi 350 o bobl ac yn cynnwys canolfan groeso'r dref.

Fe gymrodd y gwaith adeiladu 18 mis i'w gwblhau.

Mae'r datblygiad wrth ymyl parc manwerthu Cyfarthfa, ac yn cynnwys ystod o fusnesau annibynnol.

'Cyfraniad sylweddol'

Roedd sôn am godi siop o'r fath yn ardal Pentrebach mor fuan â 1990, cyn codi'r parc manwerthu ar bwys yr A470, ond roedd 'na oedi oherwydd materion cynllunio ac economaidd.

Dywedodd arweinydd Cyngor Merthyr Tudful Kevin O'Neil eu bod "wedi cyffroi o weld Trago ar agor wedi blynyddoedd o edrych ymlaen - nid dim ond am ei fod yn ychwanegu at yr hyn ar gynnig i siopwyr ym Merthyr Tudful ond am ei fod hefyd yn garreg filltir yn adfywiad y sir."

Hon yw pedwaredd siop y cwmni - mae'r gweddill yn ne orllewin Lloegr. Busnes teuluol yw Trago Mills, gafodd ei sefydlu yng Nghernyw yn y 1960au.

Mae'r siop bron yr un maint â phum maes pêl-droed, ac mae'r cwmni'n gobeithio datblygu'r safle ymhellach trwy godi gorsaf betrol a chanolfan gwerthu beiciau a beiciau modur.

Dywedodd cadeirydd Trago, Robertson y bydd y datblygiad yn gwneud "cyfraniad sylweddol" i economi'r ardal.