Diwrnod da o fatio i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerloyw

  • Cyhoeddwyd
Shaun MarshFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg wedi cyrraedd 296-5 ar ail ddiwrnod eu gornest yn erbyn Sir Gaerloyw ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Ddydd Gwener roedden nhw wedi llwyddo i gyfyngu'r tîm cartref i 226 o rediadau, gyda Marchant de Lange yn cymryd pum wiced.

Brynhawn Sadwrn fe aeth Morgannwg ati i adeiladu eu batiad eu hunain, gyda chanred Shaun Marsh yn cyfrannu at eu sgôr parchus.

Fe gollon nhw bum wiced yn y cyfamser, gyda'r bowliwr Ryan Higgins yn cymryd dwy ohonynt.