Rhybuddio pobl rhag croesi ffordd yr A470 ar droed
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon wedi eu codi yn dilyn adroddiadau bod cerddwyr yn croesi ffordd ddeuol brysur i fynd i siop newydd ym Merthyr Tudful.
Fe wnaeth Cyngor Sir Merthyr Tudful drydar bod risg o "ddamwain ffordd ddifrifol", gan alw ar siopwyr i ddefnyddio llwybr tanddaearol yn hytrach na chroesi'r A470 i gyrraedd Trago Mills.
Mae'r cyngor hefyd yn dweud bod traffig wedi bod yn adeiladu yn y cyffiniau, gan gynghori gyrwyr i ddefnyddio ffyrdd eraill os yn bosib.
Fe wnaeth y siop adrannol newydd gwerth £65m agor ei drysau ddydd Sadwrn ar ôl cymryd 18 mis i gwblhau'r gwaith adeiladu.