Gwaith pum wythnos ar y rheilffordd

  • Cyhoeddwyd
Rail engineers working on overhead linesFfynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Peirianwyr yn gweithio ar y ceblau uwchben

Mae teithwyr trên yn cael eu hannog i gadw golwg ar amserlenni gan y gall gwaith uwchraddio gael effaith ar brif reilffordd de Cymru am bum wythnos.

Mae'r gwaith yn effeithio ar y rheilffordd rhwng Twnnel Hafren a Chaerdydd o ddydd Llun 23 Ebrill tan 25 Mai.

Mewn mannau bydd bysiau yn teithio yn lle trenau ac mae disgwyl na fydd trenau yn dod mor aml.

Dywedodd Network Rail y byddant yn gweithio gyda chwmnïau rheilffordd fel Arriva Trains Wales "er mwyn cadw pobl i symud".

'Cyfnod allweddol'

Mae disgwyl y bydd teithwyr gwasanaethau Manceinion a Chaergybi yn gorfod mynd ar fws rhwng Caerdydd a Chwmbran a rhwng Casnewydd a Chwmbran.

Yn ogystal bydd teithwyr sy'n defnyddio llinell Glyn Ebwy yn gorfod mynd ar fws.

Dywedodd cyfarwyddwr prosiect Network Rail Dan Tipper: "Eleni byddwn yn cyrraedd cyfnod allweddol ein nod i foderneiddio llinell de Cymru.

"Ry'n nawr yn canolbwyntio ar osod offer llinellau uwchben rhwng Llundain a Chaerdydd i alluogi pweru y trenau bi-mode newydd."