Buddugoliaeth i Forgannwg i ddechrau'r tymor

  • Cyhoeddwyd
MorgannwgFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg wedi dechrau eu tymor ym Mhencampwriaeth y Siroedd gyda buddugoliaeth o chwe wiced dros Sir Gaerloyw.

Roedd Morgannwg angen 83 i ennill o 21 pelawd yn y sesiwn olaf, ar ôl i Sir Gaerloyw gyrraedd 372 ar ddiwedd eu hail fatiad.

Er i Forgannwg golli sawl wiced yn gynnar, llwyddon nhw i gyrraedd eu targed cyn diwedd y diwrnod olaf o chwarae.

Aneurin Donald sicrhaodd y fuddugoliaeth, ar ôl gwaith da yn gynt yn y batiad gan Nick Selman a Jack Murphy.