'Rhaid oedi cyn cau unrhyw ysgolion gwledig ym Môn'

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr ymgyrch gwarchod Ysgol Bodffordd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llawer o drigolion Bodffordd wedi ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn pwyso ar y cyngor i gadw'r ysgol yno ar agor

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu argymhelliad gan un o bwyllgorau Cyngor Môn y dylid cadw tair ysgol gynradd ar agor nes y bydd canllawiau newydd Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi.

Mae'r awdurdod wedi bod yn ymgynghori ynghylch y posibilrwydd o gau ysgolion Bodffordd, Corn Hir yn Llangefni, a Henblas yn Llangristiolus a symud disgyblion i ysgol ardal newydd gwerth £10m yn Llangefni.

Roedd gofyn i aelodau pwyllgor craffu gymeradwyo un o ddau gynnig - cau'r dair ysgol, neu cadw Ysgol Henblas ar agor yn Llangristiolus, a chodi adeilad llai ar gyfer disbyglion y ddwy ysgol arall.

Ond yn hytrach maen nhw wedi cefnogi gwelliant munud olaf yn galw am oedi cyn cau unrhyw ysgolion cyn y daw'r Côd Trefniadaeth Ysgolion newydd i rym yn yr hydref.

Bydd pwyllgor gwaith y cyngor yn trafod y mater ar 30 Ebrill.

'Calon y pentre'

Dywedodd y cynghorydd sy'n gyfrifol am addysg y sir, Meirion Jones, mai'r maes addysg yw "un o'r heriau caletaf" sy'n eu hwynebu, gan ychwanegu ei fod yn deall pryderon rhieni ynghylch cau ysgolion.

Ond fe bwysleisiodd mai prif amcan y cyngor yw creu'r amodau gorau posib i ddisgyblion, yn wyneb yr angen i leihau cost addysgu disgyblion y pen a gwella safonau ar draws yr ynys.

Mae'r cynlluniau wedi cael croeso yn achos Ysgol Corn Hir, sy'n orlawn, ond mae gwrthwynebwyr yn brwydro i gadw ysgolion Llangristiolus a Bodffordd ar agor.

Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb bws sy'n rhan o'r ymgyrch i geisio achub Ysgol Henblas

Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Henblas, Rhys Parry wrth gynghorwyr ddydd Llun mai'r ysgol yw "calon y pentre'".

"Mae rhai rhieni'n dewis danfon eu plant i ysgolion mawr, ond mae eraill yn fwriadol yn eu danfon i rai llai, gwledig," meddai.

"Fyddai colli Ysgol Henblas yn gadael dim ond dwy ysgol gynradd yn yr ardal rhwng Pentraeth ac Aberffraw."

'Dim coeden arian hud'

Dywedodd un o lywodraethwyr Ysgol Bodffordd, Gareth Parry, ei fod "yn amheus a ydy'r ymgynghoriad wedi bod yn un teg" gan rybuddio swyddogion bod "rhuthro i wneud penderfyniad yn beth peryglus iawn".

Ond fe bwysleisiodd Mr Jones bod yr awdurdod dan bwysau ariannol mawr, ac mae £40m o'r gyllideb blynyddol o £130m yn mynd ar addysg.

"I bawb sy'n dweud nad ydyn nhw'n hapus efo'r hyn 'da ni'n ei wneud, dudwch wrthan ni sut fedran ni wneud pethau yn wahanol hefo'r arian sydd ar gael i ni," dywedodd.

"Does dim coeden arian hud."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd aelodau'r pwyllgor gwaith yn trafod argymhelliad y pwyllgor craffu ddiwedd y mis.

Cafodd y cynnig munud olaf i ohirio'r cynlluniau nes cyhoeddiad canllawiau newydd yn yr hydref ei gyflwyno gan y Cyng Lewis Davies.

Dywedodd: "Gyda channoedd o dai ar fin gael eu codi yn y rhan yma o Ynys Môn a chwestiynau dros berchnogaeth y Ganolfan yn Ysgol Bodffordd, dylid gohirio unrhyw benderfyniad tan fydd y darlun yn fwy clir."

Cafodd y cynnig gefnogaeth y pwyllgor craffu er gwaethaf rhybuddion gan swyddogion y byddai Llywodraeth Cymru'n annhebygol o roi'r cyllid ar gyfer codi ysgol newydd yn lle adeilad presennol Ysgol Corn Hir yn unig.

Wrth groesawu'r argymhelliad, dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu fod yn "ddiolchgar iawn i'r pwyllgor".

"Rydyn ni'n erfyn ar bwyllgor gwaith y cyngor, sy'n cwrdd yr wythnos nesa', nid yn unig i gadarnhau'r penderfyniad hwn, ond hefyd i ddefnyddio'r amser ychwanegol i gynnal trafodaeth agored a didwyll 'efo'r gymuned ar y ffordd ymlaen.

"Mae cyfle rŵan i sicrhau bod ysgolion Cymraeg yn parhau i fod yn ganolbwynt i'r holl bentrefi hynny, ac i barchu dymuniad rhieni lleol sydd mor frwd dros addysg eu plant."