Adran Dau: Casnewydd 2-1 Accrington Stanley
- Cyhoeddwyd
![Frank Nouble](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/019D/production/_101031400_cdf_240418_newport_v_accringtonstan28.jpg)
Frank Nouble sgoriodd ail gôl Casnewydd wedi 85 munud
Roedd dwy gôl gan Padraig Amond a Frank Nouble yn ddigon i ennill buddugoliaeth i Gasnewydd yn erbyn tîm sydd eisoes wedi sicrhau dyrchafiad.
Aeth Casnewydd ar y blaen ar ôl i Amond lwyddo i daro ergyd bwerus heibio'r golwr wedi 30 munud.
Daliodd Casnewydd eu tir yn erbyn y tîm sydd chwe phwynt yn glir ar frig y tabl, cyn i Nouble ddyblu'r fantais wedi 85 munud.
Llwyddodd Billy Kee, prif sgoriwr yr adran, i daro nôl i'r ymwelwyr yn ystod amser ychwanegol ond roedd hi'n rhy hwyr i'r ymwelwyr.
Mae Casnewydd yn codi i'r 13eg safle yn Adran Dau yn dilyn y fuddugoliaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2018