Dadorchuddio cofeb i ddathlu Eisteddfod Sir Fynwy 2016

  • Cyhoeddwyd
Cofeb Eisteddfod Sir Fynwy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gofeb ei dadorchuddio ddydd Mercher

Cafodd cofeb arbennig ei dadorchuddio yn Y Fenni ddydd Mercher i nodi ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r dref yn 2016.

Yn ôl Cyngor Sir Fynwy, mae'r garreg "yn cynrychioli harddwch tirlun Cymru a'r dathliad unigryw o'r iaith Gymraeg a'i diwylliant a geir yn yr Eisteddfod".

Roedd plant ysgolion lleol yn perfformio yn y digwyddiad ar dir Dolydd y Castell ar gyrion y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r garreg yn cynrychioli harddwch tirlun Cymru a'r dathliad unigryw o'r iaith Gymraeg a'i diwylliant, medd Cyngor Sir Fynwy

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor ei bod wedi bod "yn fraint croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Ddolydd y Castell yn 2016".

"Dewiswyd haenau ar yn ail o lechen a thywodfaen fel darlun symbolaidd o'r Eisteddfod sy'n symud bob blwyddyn rhwng y Gogledd (llechen) ar De (tywodfaen).

"Mae'r gofeb yn atgoffâd parhaol o'r Eisteddfod yn y Fenni yn 2016."

'Profiad pleserus'

Ymhlith y rhai fu'n bresennol oedd Frank Olding, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2016 a Phrif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts.

"Gethon ni amser bendigedig yn gweithio yn Sir Fynwy efo pobl y sir," meddai Mr Roberts. "Gawson ni gefnogaeth dda gan y Cymry Cymraeg yn ogystal â'r Cymry di-Gymraeg.

"Roedd o'n un o'r profiadau mwya' pleserus 'da ni erioed wedi ei gael. Roedden nhw'n gweld hwn yn gyfle i arddangos y sir i bobl Cymru a thu hwnt, a dwi'n credu eu bod nhw wedi manteisio'n llawn ar hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eisteddfod Sir Fynwy 2016 yn un "hapus ofnadwy", medd y Prif Weithredwr Elfed Roberts

Mae'n dweud fod yr eisteddfod wedi gadael gwaddol yn yr ardal.

"Doedd hi ddim y mwyaf llwyddiannus o ran y canlyniad ariannol, ond yn sicr, roedd hi'n Eisteddfod hapus ofnadwy a dwi'n meddwl ei bod hi wedi creu syndod bod mynd â'r Steddfod i ardal llai traddodiadol Cymraeg ei hiaith wedi profi'n llwyddiannus a llewyrchus," meddai.

"Yn bendant, mae yna bobl wedi dysgu am Sir Fynwy ac wedi mynd yn ôl yna, ond hefyd, mae'r Gymraeg ar ei hennill yma. Mae 'na sôn hyd yn oed y bydd canolfan iaith yn agor yna."

Mae'r cyngor yn dweud fod y garreg wedi ei lleoli yn yr unig fan lle gall ymwelwyr weld pob un o'r saith bryn o amgylch Y Fenni yn glir.