Rhybudd am hoelion ar draeth Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Hoelion mewn bwcedFfynhonnell y llun, Alan Cookson
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tua 200 o hoelion eu darganfod ar draeth y de wedi'r penwythnos braf

Mae gwirfoddolwyr sy'n clirio traethau yn Aberystwyth yn rhybuddio bod cannoedd o hoelion wedi cael eu gadael ar ôl i bobl gynnau paledi pren ar y tywod.

Dywedodd Alan Cookson o'r mudiad Cyfeillion Traeth Aberystwyth wrth y BBC fod cŵn wedi cael eu hanafu gan hoelion yn y tywod.

Daeth y grŵp o hyd i 200 o hoelion ar draeth y de fore Llun ar ôl i weddillion tri paled pren oedd wedi cael eu llosgi dros y penwythnos.

Mae Cyngor Ceredigion wedi beirniadu'r tanau, gan ddweud bod yr ymddygiad yn "anghyfrifol".

Ffynhonnell y llun, Alan Cookson
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweddillion y tanau'n cael eu codi gan y llanw, a'u golchi ar hyd y traeth

Ffynhonnell y llun, Alan Cookson
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y tîm sy'n glanhau traeth y de yn Aberystwyth, mae cŵn wedi cael eu hanafu gan hoelion yn y tywod

Dywedodd Alan Cookson: "Yn amlwg, fe gawson ni benwythnos hyfryd. Roedd hi'n hynod braf ddydd Sadwrn ac roedd pobl wedi dod â phaledi i'r traeth i'w llosgi nhw.

"Mae 'na rai sy'n cerdded i ffwrdd ac yn gadael i'r tannau losgi, ac mae paledi'n gallu cynnwys hyd at 100 o hoelion, ac mae'r rheiny'n cael eu gadael ar ôl.

"Mae'r llanw yn dod i mewn ac yn codi'r gweddillion cyn eu gwasgaru ar hyd y traeth, gan gynnwys yr hoelion."

Ar dudalen Facebook y grŵp, maen nhw'n annog pobl i feddwl am bwy sy'n dod i'r traeth ar eu holau, fel plant bach neu bobl ac anifeiliaid sy'n cerdded yn droednoeth,

"Maen nhw'n anwyliaid i rywun ac maen nhw'n disgwyl traeth glân a diogel."

'Ymddygiad anghyfrifol'

Wrth ymateb dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod nhw'n "ymfalchïo yn ansawdd traethau'r sir ac yn condemnio ymddygiad anghyfrifol o'r math hwn."

"Dylai aelodau o'r cyhoedd sy'n cynnau tanau a barbeciws ar draethau glirio unrhyw sbwriel neu weddillion a gadael y traeth yn y cyflwr y ffeindiwyd ef."