Rhybudd i deithwyr ar gyfer Dydd y Farn yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm y PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl hyd at 60,000 yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn

Mae rhybudd i bobl sy'n ymweld â Chaerdydd ddydd Sadwrn i gynllunio'u siwrne o flaen llaw er mwyn osgoi trafferthion yn sgil prysurdeb gemau rygbi.

Mae Dydd y Farn yn ôl eto eleni, gyda'r Dreigiau'n chwarae yn erbyn y Scarlets am 15:05 ac yna Gleision Caerdydd yn erbyn y Gweilch am 17:35.

Fe wnaeth 60,000 o gefnogwyr fynychu'r digwyddiad y llynedd, ac mae disgwyl tua'r un nifer yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn ar gyfer y gemau rhanbarthol.

Oherwydd mesurau diogelwch bydd rhai ffyrdd yng nghanol y ddinas ynghau, ac mae disgwyl i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn brysur iawn.

Disgwyl prysurdeb ar drenau

Bydd ffyrdd canol y ddinas i gyd ynghau am 12:30, gyda disgwyl iddynt ail-agor am 20:30.

Fe fydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar i ddiogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i wasanaethau trên fod yn brysur iawn ddydd Sadwrn

Mae'r cyngor yn awgrymu'n gryf i bobl sy'n teithio mewn car gadw lle parcio cyn teithio er mwyn osgoi anhawster ar y diwrnod.

Yn ôl Trenau Arriva Cymru, mae disgwyl i wasanaethau trên fod yn brysur iawn, yn enwedig rhai i ac o orllewin Cymru.

Mae'r rheiny sy'n teithio ar y trên wedi cael cyngor i gyrraedd Caerdydd dair awr cyn y gic gyntaf.

Mae Stadiwm Principality hefyd wedi rhybuddio cefnogwyr i ddisgwyl archwiliadau diogelwch manwl all achosi oedi wrth fynd mewn i'r stadiwm.

Bydd y ffyrdd canlynol yng nghanol y ddinas ynghau:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug;

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth;

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood;

  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor;

  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair;

  • Heol y Tollty ar ei hyd;

  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sydd yn arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.

Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei,Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Gallwch ddod o hyd i gyngor teithio pellach ar wefan y cyngor, dolen allanol.