Tywydd yn effeithio ar gêm Morgannwg yn Middlesex

  • Cyhoeddwyd
Michael HoganFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Michael Hogan gymrodd ddwy o wicedi Middlesex ddydd Gwener

Dim ond 16 pelawd gafodd eu chwarae ar ddiwrnod cyntaf gêm Morgannwg yn erbyn Middlesex ddydd Gwener, oherwydd tywydd drwg.

Cyrhaeddodd Middlesex 64 am 3 ar ddiwedd y dydd yn Lord's.

Stevie Eskinazi oedd prif sgoriwr y tîm cartref wrth sgorio 31 heb fod allan, gyda chymorth Sam Robson sgoriodd 17 cyn cael ei fowlio gan Michael Hogan.

Hogan hefyd gymrodd wiced capten Middlesex, Dawid Malan, ar ôl i Lukas Carey gymryd wiced Max Holden.