Cytundeb £1.5m Clwb Criced Morgannwg ac SSE yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm
Disgrifiad o’r llun,

Gerddi Soffia Caerdydd fydd enw newydd Stadiwm Swalec

Mae cytundeb noddi werth £1.5m dros 10 mlynedd rhwng Clwb Criced Morgannwg ac SSE Swalec wedi dod i ben.

Y cwmni ynni sydd wedi bod yn brif noddwr i'r clwb, gan ail-enwi stadiwm Morgannwg fel rhan o'r cytundeb.

Dywedodd y clwb mai Gerddi Soffia Caerdydd fyddai enw newydd Stadiwm Swalec wedi'r newid.

Diolchodd prif weithredwr y clwb, Hugh Morris, i'r cwmni am eu cefnogaeth, gan ddweud ei fod yn "amser naturiol" i ddod â'r bartneriaeth i ben.

'Adlais' o'r gorffennol

Dywedodd Mr Morris bod y clwb yn chwilio am bartner arall ar hyn o bryd: "Rydyn ni'n chwilio am brif bartner lleoliad newydd i gyd-fynd â dechrau'r calendr rhwngwladol newydd a chystadleuaeth newydd yn dechrau yn 2020.

"Rydyn ni eisoes wedi derbyn diddordeb gan sawl grŵp ac yn gyffrous am y cyfle i gydweithio gyda chwmni sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n uchelgeisiau fel clwb."

Ychwanegodd bod enw newydd y stadiwm yn "adlais o'r enw gafodd ei ddefnyddio rhwng 1967 a 2007" ac yn "cysylltu Morgannwg gyda'r gorffennol".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â gemau Morgannwg, mae'r stadiwm yng Nghaerdydd wedi cynnal nifer o gemau rhyngwladol

Eleni, bydd Lloegr yn chwarae dwy gêm yn erbyn Awstralia ac India yng Nghaerdydd, yn ogystal â nifer o gemau rhwng 2020 a 2024.

Mewn datganiad, dywedodd pennaeth noddi SSE, Colin Banks ei fod yn "benderfyniad anodd" i ddod â'r cytundeb i ben, ond ei fod yn "amser naturiol" ar ôl adolygu'r strategaeth hir-dymor.

"Hoffwn ddiolch i Forgannwg a phawb sy'n ymwneud â chriced yng Nghymru am eu blynyddoedd o gefnogaeth gwerthfawr."