Gwasanaethau plant yng Nghymru yn 'agosáu at argyfwng'

  • Cyhoeddwyd
Plentyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae 5,955 o blant yn derbyn gofal yn ôl y ffigyrau diweddara

Mae gwasanaethau plant yng Nghymru yn agosáu at argyfwng, yn ôl y corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol.

Daw'r sylwadau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dilyn cyhoeddi ffigyrau sy'n dangos fod y nifer o geisiadau i'r llys teulu roi plant mewn gofal wedi cynyddu 149% ers 2008.

Mae'r ffigyrau wedi cynyddu o 422 cais yn 2008/9 i 1,050 yn 2017/18.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pwysau a roddir ar awdurdodau lleol, a'u bod wedi cymryd camau i gefnogi teuluoedd fel eu bod yn gallu parhau i ofalu am eu plant.

Mae'r ffigyrau diweddara yn dangos fod 5,955 o blant yn derbyn gofal ar ddiwedd mis Mawrth 2017 - cynnydd o tua 5,655 y flwyddyn cyn hynny.

Roedd gostyngiad yn y nifer o blant yn derbyn gofal mewn chwe chyngor - Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Chasnewydd.

Disgrifiad,

Mae 'creisis' yn wynebu cynghorau lleol oni bai bod yna fuddsoddi mewn gwasanaethau i blant medd Geraint Hopkins, dirprwy lefarydd dros blant Cyngor Llywodraeth Leol Cymru

'Ddim yn gynaliadwy'

Mae'r ffigyrau o'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS Cymru) yn dangos y nifer o geisiadau Adran 31.

Bydd cais Adran 31 yn cael ei wneud gan awdurdod lleol os ydyn nhw eisiau rhoi plant mewn gofal achos mae ganddynt dystiolaeth o niwed, neu niwed tebygol, i blentyn.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae cynghorau yn ceisio'u gorau, ond tydi'r sefyllfa ddim yn gynaliadwy.

Dywedodd Geraint Hopkins, dirprwy lefarydd CLlLC: "Mae'r system yn agosau at argyfwng. Fyddwn ni mewn trafferthion difrifol os na wnawn ni edrych yn fanwl ar yr adnoddau sydd ar gael i wasanaethau plant yng Nghymru a'r gwahanol ffyrdd da ni'n ymyrryd er mwyn ceisio atal plant rhag dod mewn i ofal."

Ychwanegodd Mr Hopkins: "Mae'r degawd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd, mae cynilo wedi cael effaith ar y mwyafrif o awdurdodau lleol a tra ein bod ni wedi parhau i geisio delio a'r gost gynyddol o blant sy'n derbyn gofal, mae'n cyrraedd pwynt lle da ni yng nghanol argyfwng."

Yn ôl y cynghorydd Hopkins, mae effaith tlodi a phwysau eraill ar fywyd teulu i'w weld nawr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y llywodraeth fod camau wedi cael eu cymryd i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd

Ar gyfartaledd tua £23,327 yw'r gost i awdurdod lleol faethu plentyn am flwyddyn, tra bod yr un gwasanaeth drwy asiantaeth annibynnol tua £43,378.

Mae gofal preswyl yn fwy drud ac yn gallu bod rhwng £2500 ac £16,000 yr wythnos.

Mewn ymateb i'r ffigyrau dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pwysau a roddir ar awdurdodau lleol.

Mae datganiad y llywodraeth yn egluro eu bod nhw wedi cymryd camau i "gryfhau ymyrraeth gynnar a gweithredoedd ataliol" i alluogi teuluoedd i barhau i ofalu am eu plant yn ddiogel a lleihau'r angen iddynt dderbyn gofal.

"Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol dros blant sy'n derbyn gofal, ac fel rhieni corfforaethol dylent weithio gydag asiantaethau eraill i wella'r canlyniadau ar gyfer y plant hynny sydd eisoes mewn gofal. " meddai datganiad Llywodraeth Cymru.