Y Drenewydd, Ffrainc a dwy ffeinal bêl-droed

  • Cyhoeddwyd
les herbiers yn dathlu cyrraedd y ffeinalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae CPD Les Herbiers - tref sydd wedi gefeillio â'r Drenewydd - wedi cyrraedd ffeinal Cwpan Ffrainc

Ddydd Sul fe fydd rownd derfynol Cwpan Cymru yn cael ei chynnal yn Y Drenewydd - ond mae gan y dref hefyd gysylltiad â ffeinal arall fydd yn cael ei chwarae yn Ffrainc yr wythnos nesaf.

Ddeuddydd wedi i Aberystwyth a Chei Connah herio'i gilydd ar Barc Latham, fe fydd ffeinal Cwpan Ffrainc yn cael ei chwarae yn y Stade de France ym Mharis.

Y diddordeb Cymreig? Mae tîm o'r dref sydd wedi'i gefeillio gyda'r Drenewydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Tref yn ardal y Vendee sydd â thua 18,000 o drigolion yw Les Herbiers, a ddydd Mawrth fe fydd y clwb yn cael y cyfle i herio cewri Paris St Germain yn y rownd derfynol.

Dafydd a Goliath

Mae'n ornest Dafydd yn erbyn Goliath go iawn, gyda Les Herbiers yn nhrydedd adran Ffrainc ar hyn o bryd, ac mewn perygl o ddisgyn ar ddiwedd y tymor i'r bedwaredd adran.

Paris Saint Germain, ar y llaw arall, yw un o dimau mwyaf Ewrop - maen nhw wedi gorffen ar frig prif adran Ffrainc eto eleni, am y pumed tro mewn chwe thymor, gyda mantais o bron i 20 pwynt dros y tîm yn yr ail safle.

Llynedd fe wariodd PSG £200m i arwyddo Neymar - un o chwaraewyr gorau'r byd - o Barcelona.

Mae dros 15,000 o docynnau wedi'u gwerthu yn Les Herbiers ar gyfer y gêm fawr - cymaint bron â phoblogaeth y dref.

Ond tra bod disgwyl i dref Les Herbiers fod yn wag ar ddiwrnod yr ornest, cefnogi o bell fydd aelodau o bwyllgor gefeillio'r Drenewydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Les Herbiers yn dathlu ar ôl trechu Chambly, sydd hefyd o'r drydedd adran, i gyrraedd y rownd derfynol

"Byddai'n wefreiddiol mynd i Baris i gefnogi Les Herbiers - buaswn i wrth fy modd," meddai Alwena Gentle, aelod o'r pwyllgor.

"Yma adre fyddwn ni, ond yn meddwl am y tîm ar 8 Mai. Byddai'n braf pe bai clwb pêl-droed y Drenewydd yn dangos y gêm ar sgrin fawr. Mae'n mynd i fod yn dipyn o ornest Dafydd a Goliath - ond cawn weld!"

Roedd y gêm fawr hefyd ar feddwl llawer o bobl Les Herbiers fu ar ymweliad gefeillio â'r Drenewydd dros y penwythnos.

"Mae'r freuddwyd wedi'i gwireddu yn barod," meddai Guy Trichot, un o gefnogwyr selog Les Herbiers oedd yn rhan o'r ymweliad.

"Mae cyrraedd y ffeinal yn y Stade de France yn freuddwyd yn ei hun. Mae'n anghredadwy. Bydd pawb o Les Herbiers yna - wel, mwy neu lai pawb beth bynnag."

Disgrifiad o’r llun,

Mae criw o Les Herbiers wedi bod ar ymweliad gefeillio â'r Drenewydd yn ddiweddar

Mae'r dasg sy'n wynebu'r clwb yn enfawr ond yn ôl Gaston Blanchard, un arall o'r cefnogwyr, does dim ots am y canlyniad.

"Er ein bod ni'n gwybod beth fydd y canlyniad, does dim ots! Mae'n anhygoel i'n tref ni ein bod ni wedi cyrraedd y ffeinal o gwbl."

A beth yw ei gyngor i dîm y Drenewydd er mwyn efelychu llwyddiant Les Herbiers? "Rhaid deall eich gilydd, chwarae gyda gwên ar eich wyneb a chwarae fel tîm!"

'Creu cysylltiadau'

Ar ôl i'r gweithgareddau gefeillio fynd trwy gyfnod tawel mae egni newydd yn y berthynas ers 2015, ac mae'r clymau'n dynn nawr rhwng Y Drenewydd a Les Herbiers.

Mae cynlluniau ar y gweill i ddathlu 20 mlynedd o efeillio'r flwyddyn nesaf, ac mae'r ddwy ochr yn benderfynol na fydd Brexit yn gwanhau'r cysylltiadau.

"Mae'n dda dysgu sut mae pobl eraill yn byw ac mae'n braf creu cysylltiadau gyda phobl mewn rhannau eraill o Ewrop," meddai Marie-Thé Gauthier, llywydd Pwyllgor Gefeillio Les Herbiers.

"Ry'n ni wedi creu cysylltiadau rhwng pobl o bob oed, sydd â gwahanol ddiddordebau mewn gwahanol feysydd."

Ychwanegodd Alwena Gentle: "Cerddoriaeth sydd wedi dod â phawb at ei gilydd yn ystod yr ymweliad gefeillio diweddara'.

"Fe wnaeth Cerddorfa Ieuenctid Maldwyn berfformio cyngerdd ar y cyd gyda cherddorion rhwng 12 a 75 oed o Les Herbiers. Roedd yn hyfryd i weld cerddorion o bob oed o Gymru ac o Ffrainc yn cyd-chwarae!"

Y cwestiwn mawr yw a fydd cyd-chwarae pêl-droedwyr Les Herbiers yn ddigon i guro cewri Paris yn y ffeinal - fe fydd cefnogwyr yn Y Drenewydd yn gobeithio am y gorau i'w gefeilliaid draw yn Ffrainc.