Tlodi mislif yng Nghymru'n 'warth llwyr' medd AC

  • Cyhoeddwyd
tywelion hylendidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o phob 10 merch methu fforddio i brynu tywelion hylendid

Mae'n "warth llwyr" nad yw rhai menywod yn gallu fforddio prynu nwyddau hylendid, yn ôl AC Llafur.

Dywedodd AC Canol Caerdydd, Jenny Rathbone fod tlodi'n ei gwneud hi'n gynyddol anodd i nifer o fenywod yng Nghymru allu prynu tamponau a chlytiau mislif.

Cafodd trafodaeth ar y mater, sydd wedi'i alw'n "dlodi mislif", ei gynnal yn y Senedd brynhawn ddydd Mercher.

Dywedodd gweinidogion eu bod wedi cyhoeddi cyllid yn ddiweddar tuag at daclo tlodi mislif.

Llymder

Fe wnaeth arolwg gan Plan International UK ym mis Hydref awgrymu bod un o bob 10 o ferched rhwng 14 a 21 oed ddim yn gallu fforddio nwyddau hylendid.

Roedd yr arolwg o 1,000 o fenywod ar draws y DU hefyd wedi awgrymu bod tua hanner y rheiny wnaeth ymateb wedi gorfod defnyddio eitemau eraill yn hytrach na'r nwyddau hylendid oedd eu hangen arnyn nhw.

Dywedodd Ms Rathbone fod cynnydd yn nifer y teuluoedd oedd yn defnyddio banciau bwyd ac ar "gyflogau tlodi" yn golygu bod "menywod yn y sefyllfaoedd hyn jyst methu fforddio nwyddau hylendid".

"Ni yw'r chweched economi fwyaf yn y byd ac rydyn ni yn y sefyllfa hon. Mae'n warth llwyr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jenny Rathbone ei bod hi'n "warth" bod tlodi mislif yn dal i fodoli

Ym mis Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cronfa gwerth £1m i daclo tlodi mislif ar draws Cymru.

Bydd nwyddau hylendid yn cael eu dosbarthu am ddim drwy grwpiau cymunedol, ysgolion a banciau bwyd.

Ond fe wnaeth Jenny Rathbone rybuddio bod terfyn i'r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru'n gallu ei dalu amdano.

"Dydyn ni ddim yn mynd i allu darparu nwyddau hylendid i bob merch ym mhob ysgol yng Nghymru, achos does gennym ni ddim y math yna o arian ar hyn o bryd, gan fod gennym ni dal lymder yn dod o San Steffan," meddai.

"Ond beth sydd angen i ni ei wneud yw llenwi'r bylchau - mewn rhai ysgolion does dim biniau hylendid, fe ddylen nhw i gyd fod yn darparu hynny."

'Hollol naturiol'

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi cytuno i ddarparu nwyddau hylendid am ddim i ysgolion, gydag amcangyfrif y bydd yn costio £120,000 i ddarparu 100 basged a nwyddau hylendid i ysgolion cynradd, a 150 o beiriannau cyflenwi a nwyddau hylendid i ysgolion uwchradd.

Bu ACau yn trafod cynnig wedi'i gyflwyno gan Ms Rathbone a'r cyn-weinidog Jane Hutt yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried effaith tlodi mislif ar fenywod yng Nghymru, a sicrhau bod pobl dlotach yn medru cael nwyddau hylendid.

Maen nhw hefyd wedi galw am wella'r ffordd y mae ysgolion yn darparu nwyddau hylendid am ddim, a "gwella addysg ar y pwnc".

"Rydyn ni dal yn yr hen oesoedd o feddwl ei fod yn felltith, fel roedd ein neiniau yn arfer trafod y peth," meddai Ms Rathbone.

"Mae llawer o ferched yn teimlo eu bod angen methu ysgol am fod eu mislif yn codi cywilydd arnynt, pan mae'n rhan naturiol o gylch bywyd yn y bôn.

"Mae angen i ni addysgu merched a bechgyn er mwyn iddyn nhw ddeall bod cael mislif yn rhywbeth hollol normal i unrhyw fenyw."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn ddiweddar fe wnaethon ni gyhoeddi £1m o gyllid er mwyn taclo tlodi mislif yn ein cymunedau a gwella cyfleusterau ysgolion er mwyn sicrhau urddas i ferched a menywod ifanc.

"Fel rhan o'r cyllid yma, rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny ble mae tlodi ar ei uchaf, a hynny drwy grwpiau cymunedol, ysgolion neu fanciau bwyd."