Dedfrydu merch wedi trosedd ei chariad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn, a oedd wedi defnyddio cyfrifiadur ei gariad o Sir Ddinbych i hacio manylion miloedd o gwsmeriaid gwefan archebu bwyd, wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau.
Dechreuodd Grant West, 26 oed, ddwyn manylion banc dros 160,000 o gwsmeriaid cwmni Just Eat yn 2015.
Fe ddarganfyddodd ditectifs fod ganddo fanylion dros 63,000 o gerdiau credyd a debyd, ac fe ddaethon nhw o hyd i asedau o dros £500,000 yn y cyfrwng ariannol 'bitcoin'.
Fe blediodd yn euog i gynllwynio i dwyllo, camddefnyddio cyfrifiadur a throseddau'n ymwneud â chyffuriau.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Southwark, fe wnaeth ei gariad, Rachael Brookes, 26, o Ddinbych, dderbyn dedfryd gymunedol ar ôl pledio'n euog i ganiatau mynediad heb ei awdurdodi i'w chyfrifiadur.
Clywodd y llys ei bod hi wedi defnyddio peth o'r enillion er mwyn prynu pethau, a'i bod hi ar un adeg wedi defnyddio manylion oedd wedi cael eu dwyn er mwyn talu am ficini.
Dywedodd y Barnwr Michael Gledhill QC wrthi ei bod yn "ffodus iawn" nad oedd hi'n cael dedfryd o garchar a'u bod hi, wrth ddisgrifio'i pherthynas gyda West, "wedi syrthio i freichiau troseddwr a dihiryn".
Bydd Grant West yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.