Criced: Morgannwg yn colli i Gaint

  • Cyhoeddwyd
Opener Sean Dickson's 39 gave Kent a fine start in their second-innings run chaseFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Batio Sean Dickson yn rhoi dechrau campus i'r ymwelwyr

Colli fu hanes tîm criced Morgannwg yn erbyn Caint ar drydydd diwrnod y chwarae ar Erddi Soffia.

Doedd hi ddim yn dasg anodd i Gaint gael y llaw uchaf ar Forgannwg ar drydydd diwrnod y gêm bencampwriaeth.

Roedd Morgannwg i gyd allan am 274 fore Sul ac felly yn gadael tasg o gyrraedd 195 i fatwyr Caint.

Rhoddodd y ddau agorwr - Daniel Bell-Drumond (36) a Sean Dickson (39) - ddechrau campus i'r ymwelwyr a chafwyd batiad cadarn gan Heino Kuhn wedi hynny (69 heb fod allan).

Er i Forgannwg gipio wiced Denly (26) a Crawley (11) doedd yna fawr o obaith rhwystro Caint rhag cyrraedd 195 ac fe wnaed hynny am y pedair wiced gyda bron i ddiwrnod a hanner yn sbâr.

Anodd ailgydio

Diwrnod cyntaf echrydus oedd yn bennaf gyfrifol am golli'r gêm gyda batiad Morgannwg yn 94 i gyd allan.

Roedd ailgydio yn y gêm wedyn yn dasg rhy anodd.

Dyma ail fuddugoliaeth Caint o'r bron.

Caint (19 pwynt) Morgannwg (3 pwynt)