Bacteria ysgarthion ar rew diodydd mewn siopau coffi

  • Cyhoeddwyd
CoffiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae bacteria ysgarthion wedi ei ddarganfod ar rew sy'n cael ei ddefnyddio mewn diodydd mewn "bron i chwarter" y siopau coffi yng Nghymru lle gafodd profion eu cynnal ar hap.

Gofynnodd Fforwm Microbiolegol Bwyd Cymru i awdurdodau lleol gynnal y profion mewn ymateb i raglen y BBC wnaeth brofi diodydd tair o gadwyni coffi mwyaf y DU.

Rhwng Gorffennaf a Hydref y llynedd, fe gafodd 164 o samplau eu cymryd o siopau coffi cadwyn ac annibynnol ymhob rhan o Gymru.

O ganlyniad i'r canfyddiadau fe fydd rhagor o brofion yn cael eu cynnal.

Y cynghorau lleol fydd yn cynnal y profion hynny hefyd, medd Fforwm Microbiolegol Bwyd Cymru.

Dywedodd cadeirydd y fforwm, Paul Ellis fod swyddogion diogelwch bwyd wedi ymweld â'r busnesau lle daethpwyd o hyd i facteria ysgarthion er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â'r safonau angenrheidiol.

Dulliau glanhau annigonol

Dyw'r fforwm heb gyhoeddi faint yn union o siopau coffi oedd wedi methu'r profion nac ym mha ardaloedd maen nhw.

"Roedd y materion a nodwyd fel rhai a gyfrannodd at ganlyniadau gwael yn ymwneud yn bennaf â diffyg dulliau digonol i lanhau a chynnal a chadw peiriannau rhew, ymarferion hylendid personol gwael a methiant i gadw sgwpiau rhew yn gywir," meddai.

"Doedd dim cysylltiad i'w weld rhwng canlyniadau gwael â sgoriau hylendid bwyd y busnes, sy'n amlygu pwysigrwydd arolygon samplo i ddarganfod risgiau cudd diogelwch bwyd.

"Er y camau i fynd i'r afael â chanlyniadau annigonol, mae'r fforwm yn argymell cynnal astudiaeth bellach i sicrhau fod gwellianau hylendid yn parhau yn gyson."

Ers cynnal y profion gwreiddiol mae Watchdog hefyd wedi cynnal profion ar fwytai bwydydd cyflym gan gynnwys McDonald's, Burger King a KFC, ond fydd rhain ddim yn cael eu cynnwys ym mhrofion y fforwm.