Beirniadu 'picnic brenhinol' i blant yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y WernFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol y Wern yng Nghaerdydd yn un o'r rhai fydd yn cynnig picnic i 'ddathlu' priodas y Tywysog Harry.

Mae Cyngor Caerdydd wedi amddiffyn penderfyniad eu hadran arlwyo i gynnig "picnic brenhinol" i bob plentyn oed cynradd ddiwrnod cyn i'r Tywysog Harry briodi.

Mae pob un o geginau ysgolion y cyngor wedi cael yr hawl i gynnig picnic i blant ddydd Gwener, 18 Mai, neu'r cinio poeth arferol, er mwyn hyrwyddo'r gwasanaeth ciniawau ysgol.

Yn ôl un rhiant, mae'n "warthus" bod y cyngor yn trefnu hyn "i ddyn fydd ddim hyd yn oed yn dod yn frenin", tra hefyd "yn torri gwasanaethau" yn yr ysgolion.

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod nhw, o dro i dro, yn rhoi cynnig i'r ysgolion gynnal pryd ysgol gyda 'thema', fel arfer i gyd-ddigwydd gyda diwrnodau o "bwysigrwydd cenedlaethol" - fel canmlwyddiant pen-blwydd Roald Dahl yn 2016.

Ond pwysleisiodd yr awdurdod nad y cyngor fyddai'n talu am hyn, ond y rhieni eu hunain, pe baen nhw'n dymuno derbyn y cynnig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Tywysog Harry yn priodi Meghan Markle yn Windsor dydd Sadwrn, 19 Mai

Un o'r ysgolion fydd yn cynnig y picnic fydd Ysgol y Wern yng Nghaerdydd.

Dywedodd un rhiant wrth BBC Cymru Fyw bod cynnal parti fel hyn "yn arswydus".

"Daeth y llythyr hwn adre ddiwrnodau'n unig ar ôl i lythyr arall ein cyrraedd yn dweud na fyddai ffrwyth am ddim yn cael ei gynnig i'r plant dim mwy," meddai Natalie, sydd â dau o blant yn yr ysgol.

"Maen nhw'n mynd â hwnna, ond eto maen nhw'n fodlon cynnal y parti yma.

"Dwi'n ystyried o ddifri' a fydda i'n anfon y plant i'r ysgol y diwrnod hwnnw, ac nid fi ydy'r unig un."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llythyr ei anfon at holl rieni Ysgol y Wern, Caerdydd yn cynnig picnic i'r plant petaen nhw'n dymuno

Ond mae sawl rhiant arall yn Ysgol y Wern yn croesawu'r diwrnod.

"S'dim problem gen i," meddai Sian-Elin Melbourne, sydd â merch yn yr ysgol.

"Dwi'n deall bod rhai pobl yn erbyn gwario arian fel hyn, ond ar ddiwedd y dydd, rhywbeth neis i'r plant yw e!

"Pwy sydd moen dweud 'na' i hwnna?

"Dwi'n cofio parti priodas Charles a Diana. Ro'dd hi'n ddiwrnod hyfryd o dathlu. Fydd y picnic yn rhywbeth i'r plant gofio yn y dyfodol."

Fe gysylltodd y BBC gydag Ysgol y Wern, ond nid oedd yr ysgol am wneud unrhyw sylw ar y mater.

'Darparu hwyl'

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Caerdydd mai "pwrpas y themau yw darparu hwyl a mwynhad i'r plant, yn ogystal â rhoi cyfle i rieni ystyried rhoi prydau ysgol yn lle dod â'u brechdanau eu hunain".

"Fe fyddai'r syniad o bicnic ar 18 Mai hefyd yn caniatáu i'r plant sydd yn dod â'u bwyd eu hunain ymuno gyda'u ffrindiau sy'n cael prydau ysgol fel arfer," meddai'r cyngor.

"Cafodd y thema ei rannu gyda'r ysgolion, fel bod modd iddyn nhw benderfynu a fyddan nhw'n cymryd rhan ai peidio.

"Os ydy ysgolion yn penderfynu mynd am y thema picnic, fyddai'r bwyd ddim yn cael ei ddarparu am ddim, ac fe fyddai'n rhaid i'r rheini dalu am y cinio fel sy'n arferol. Fyddai dim cost ychwanegol yn cael ei ysgwyddo gan Gyngor Caerdydd.

"Bydd yr ysgolion sy'n penderfynu na fyddan nhw'n cynnal y thema yn cynnig y fwydlen arferol y diwrnod hwnnw."

Nid yw Cyngor Caerdydd wedi ymateb i gais BBC Cymru ynglyn â sawl ysgol sydd wedi penderfynu derbyn y cynnig i gynnal picnic ar y diwrnod hwnnw.