Dechrau da i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerlŷr

  • Cyhoeddwyd
Michael HoganFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Michael Hogan gymryd tair wiced ar ddiwrnod da i Forgannwg

Morgannwg wnaeth reoli'r diwrnod cyntaf yn erbyn Sir Gaerlŷr ddydd Gwener, wrth i'r tîm cartref gael eu bowlio allan am sgôr o 191.

Yna llwyddodd y Cymry i gyrraedd sgôr o 82 heb golli wiced diolch i fatio cadarn Nick Selman a Jack Murphy.

Roedd holl fowlwyr Morgannwg yn edrych yn beryglus mewn amodau cymylog yng Nghaerlŷr, gyda Michael Hogan a Marchant de Lange yn cymryd tair wiced yr un.

Bu'n rhaid i wicedwr y tîm cartref, Lewis Hill, adael y gêm wedi i'r bêl ei daro'n wael ar ei fraich, ond llwyddodd i ddychwelyd i'r cae ar ôl i brofion ddangos nad oedd wedi'i thorri.