Sêr McMafia a The Crown mewn ffilm am y Cymro, Gareth Jones
- Cyhoeddwyd
Mae ffilm ar y gweill am y newyddiadurwr o Gymro, Gareth Jones, a dynnodd sylw'r byd at y newyn mawr a laddodd filiynau o bobl yn Wcráin yn y 1930au.
Mae'r cylchgrawn ffilm Variety wedi cyhoeddi, dolen allanol mai James Norton o'r gyfres McMafia, a Vanessa Kirby, a enillodd wobr BAFTA am ei rhan yn The Crown, sydd ym mhrif rannau'r ffilm gan y cyfarwyddwr o Wlad Pwyl, Agnieszka Holland.
Roedd Gareth Jones yn un o'r newyddiadurwyr cyntaf o'r gorllewin i adrodd am Newyn Mawr 1932-33 yn yr Wcráin mewn papurau newydd fel The New York Evening Post, Chicago Daily News a The London Evening Standard.
Deilliodd y newyn o Fesur Pum Mlynedd arweinydd yr Undeb Sofietaidd ar y pryd, Joseph Stalin.
Yr Holodomor yw'r enw yn Wcráin am y digwyddiad, sy'n golygu "marwolaeth drwy newyn", ac mae rhai'n dadlau mai hil-laddiad gan Stalin oedd y newyn.
Bu farw rhwng pump a 10 miliwn o bobl y wlad rhwng 1932 a 1933.
'Cydnabyddiaeth'
Un o'r Barri ym Morgannwg oedd Gareth Jones a bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth a Choleg y Drindod Caergrawnt.
Roedd yn fyfyriwr ieithoedd disglair a dysgodd Rwsieg cyn mynd allan i'r Wcráin.
Pan ymwelodd â'r wlad roedd yn benderfynol o ddweud wrth y byd beth oedd yn digwydd yno.
Pan ddangoswyd rhaglen 'Y Gohebwyr: Guto Harri' yn dilyn hanes Gareth Jones ar S4C yn 2014, dywedodd ei or-nai, y diweddar Nigel Colley, wrth BBC Cymru Fyw, ei fod "yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol o'r diwedd ar ôl cael ei anwybyddu am 70 mlynedd".
Mae'r hanes "fel stori dylwyth teg, daioni yn erbyn drwg, Dafydd yn erbyn Goliath," meddai.
Yn ôl Mr Colley, mae'n debyg bod diddordeb Gareth Jones yn y wlad a'r iaith wedi ei ysgogi gan ei fam, Annie Gwen Jones. Roedd hi wedi gweithio am dair blynedd yn yr Wcráin i deulu John Hughes, sylfaenydd dinas Hughesovka.
Yno daeth wyneb yn wyneb ag amgylchiadau trychinebus ac yn 1933, ar ei drydydd ymweliad, penderfynodd Gareth Jones ysgrifennu cyfres o erthyglau i ddangos yr hyn oedd yn mynd ymlaen yno.
Yn ôl Variety, mae'r ffilm amdano wedi bod yn cael ei saethu yn Wcráin a Gwlad Pwyl ac mae disgwyl i'r ffilmio orffen yn yr Alban ddiwedd mis Mai.
Mae James Norton wedi bod yn rhannu lluniau ar ei gyfrif Instagram a Twitter.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
'Risg'
Cafodd nifer o erthyglau Gareth Jones eu hatal ac fe gafodd ei ddirmygu a'i wawdio gan ei gydweithwyr a oedd yn gwadu'r hil-laddiad, yn arbennig gan Walter Duranty, gohebydd Moscow y New York Times ac enillydd gwobr Pulitzer.
Yn ôl Nigel Colley: "Roedd yn ddewr, yn gwybod ei fod yn cymryd risg. Roedd yn glyfar wrth ddweud pethe' braf mewn cardiau post adref - a oedd, fe wyddai, yn cael eu darllen gan swyddogion yn y wlad, ond yn cofnodi'r gwir yn ei ddyddiaduron".
Roedd yn "sgŵp rhyfeddol" meddai, "sawl erthygl papur newydd sy'n cael eu trafod dros 80 mlynedd yn ddiweddarach?"
Cafodd ei lofruddio yn Mongolia yn 1935 ar drothwy ei ben-blwydd yn 30 oed, mewn amgylchiadau amheus yn ôl ei deulu, wrth iddo ymchwilio i fwriad Japan i ehangu ei thiriogaeth.
Pan ddadorchuddiwyd plac iddo ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2006 dywedodd llysgennad Wcráin: "Dylai gael ei weld fel arwr am yr hyn a wnaeth ac am roi ei fywyd mewn perygl."