Nifer y di-waith yn gostwng i 4.4% yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
diweithdra

Mae canran y bobl heb waith yng Nghymru wedi gostwng i 4.4% yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn.

Mae'r ffigwr yn cymharu â 4.2% ar draws y DU.

Roedd nifer y di-waith yng Nghymru rhwng Ionawr a Mawrth eleni 9,000 yn is o'i gymharu â'r tri mis blaenorol a 5,000 yn is nag yn yr un chwarter y llynedd.

Ac roedd 19,000 yn rhagor o bobl dros 16 oed mewn gwaith yng Nghymru yn ystod tri mis cyntaf eleni o'i gymharu â rhwng Hydref a Rhagfyr 2017.

Ond mae cyfran y boblogaeth mewn gwaith yng Nghymru - 73.4% - yn is na'r cyfartaledd drwy'r DU, sef 75.6%. Dim ond Gogledd Iwerddon sydd â chyfran is.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod ffigyrau dydd Mawrth yn "amlygu chwarter cryf ym marchnad swyddi Cymru".

"Mae'r gostyngiad sydyn yn y raddfa ddiweithdra hefyd i'w groesawu ac yn adlewyrchu'r ffaith ein bod yn cau'r bwlch gyda gweddill y DU," meddai.

Ychwanegodd mai "gwaith Llywodraeth y DU yw parhau i ddenu buddsoddwyr i Gymru a sicrhau'r amodau cywir i fusnes lwyddo".