Gweithdai i osgoi damweiniau ar ffermydd

  • Cyhoeddwyd
Beca Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Beca Glyn ei bod yn gwella'n raddol wedi anaf i'w phen ar ôl syrthio o feic pedair olwyn

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fanteisio ar weithdai sy'n codi ymwybyddiaeth ynglŷn â pheryglon y byd amaeth.

Dros y degawd diwethaf mae 388 o farwolaethau wedi bod ar ffermydd Prydain ac roedd 38 o'r rheiny yng Nghymru.

Mae miloedd yn rhagor wedi dioddef anafiadau difrifol wedi damweiniau sy'n effeithio ar eu bywydau o ddydd i ddydd.

Yn ôl un arweinydd undeb amaeth yng Nghymru, mae rhai damweiniau'n digwydd oherwydd straen, mwy o fiwrocratiaeth a'r defnydd cynyddol o beiriannau.

Bydd gweithdai hanner diwrnod yn cael eu cynnal ddydd Iau yng Ngholeg Glynllifon ger Caernarfon a dydd Gwener ar gampws Gelli Aur, Coleg Sir Gâr.

Bydd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys arddangosiadau neu gyflwyniadau byr, ymarferol ac mae'r pynciau'n cynnwys:

  • Trin da byw'n ddiogel;

  • Gweithio'n ddiogel ar uchder;

  • Defnyddio cerbydau pob tirwedd a pheiriannau fferm gan gynnwys peiriannau codi a thractorau;

  • Ymdrin â chemegion peryglus.

Dywed Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) bod nifer y damweiniau yn "syfrdanol".

"Mae pob marwolaeth, pob anaf, a phob afiechyd yn un yn ormod, sy'n gallu cael effaith drychinebus a all newid bywydau teuluoedd ffermio," meddai cadeirydd WFSP, Brian Rees, sy'n un o hyfforddwyr diogelwch fferm amlycaf y DU.

"Mae ystadegau'n dangos eich bod bellach chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd wrth weithio ar fferm nag ar safle adeiladu, felly mae sicrhau bod gennych wybodaeth am bob elfen o ddiogelwch ar fferm yn hanfodol."

Mae'r gweithdai, meddai, yn addas ar gyfer amaethwyr o bob oedran, ac yn dangos nifer o ffyrdd i leihau'r perygl o ddamweiniau ac anafiadau i ffermwyr, perthnasau, gweithwyr ac ymwelwyr fel milfeddygon.

"Nid ydych chi byth yn rhy hen i ddysgu, a gallai olygu'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw neu golli eich bywoliaeth," meddai Mr. Rees.

Fe gafodd Beca Glyn, 24, ddamwain ar ei beic pedair olwyn ychydig wythnosau yn ôl tra'n hel defaid ar y fferm deuluol, Dylasau Uchaf ger Betws-y-Coed.

Erbyn hyn mae hi'n gwella'n "araf bach" wedi cyfnod yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

"Nes i droi'n sydyn a wedyn troi'r beic a hitio 'mhen ar y ffor'," meddai. "Nes i gracio 'mhenglog."

"Y diwrnod nes i frifo ddylia fi 'di gwisgo helmet. 'Swn i'm 'di brifo gymaint, a 'swn i 'di gwella'n gynt.

Disgrifiad o’r llun,

Glyn Roberts a Beca Glyn ar fferm Dylasau Uchaf

"Dwi'n meddwl o'n i'n trio brysio o hyd a ddim yn meddwl digon am be 'sa'n gallu digwydd."

Roedd tad Beca, Glyn Roberts - Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru - ychydig lathenni y tu ôl iddi pan ddigwyddodd y ddamwain. Dywed bod gweld ei ferch "yn anymwybodol ar lawr" ddim yn brofiad y byddai'n dymuno i eraill orfod mynd trwyddo.

Mae'n dweud bod gan undebau amaeth gyfrifoldeb i godi ymwybyddiaeth am iechyd a diogelwch ar ffermydd, ond mae ffactorau eraill hefyd i'w hystyried.

"Fedrwn ni ddim stopio rhai o'r damweiniau ond mae gynnon ni gyfrifoldeb i drio lliniaru gymaint â fedrwn ni," meddai.