Carfan arbrofol gan Gymru i herio Mecsico yn Califfornia

  • Cyhoeddwyd
GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib y bydd wyth chwaraewr yn ennill eu capiau cyntaf dros Gymru yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn Califfornia ddiwedd y mis.

Fe wnaeth Ryan Giggs gyhoeddi'r 32 o chwaraewyr allai deithio i'r Unol Daleithiau ddydd Mercher, gyda phump ohonynt wedi eu galw i'r garfan am y tro cyntaf.

Gyda Real Madrid a Lerpwl yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr ddeuddydd cyn y gêm yn Pasadena, dyw Gareth Bale, Ben Woodburn na Danny Ward yn rhan o'r garfan.

Dyw Joe Allen, Ethan Ampadu na Neil Taylor yn y garfan chwaith oherwydd anafiadau, tra bydd James Chester yn ceisio helpu Aston Villa i sicrhau eu lle yn yr Uwch Gynghrair yn ffeinal y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth.

Ramsey yn ôl

Mae Aaron Ramsey, Joe Ledley a Hal Robson-Kanu yn dychwelyd i'r garfan, ar ôl colli'r daith i China.

Bydd pum chwaraewr yn y garfan am y tro cyntaf, sef George Thomas, Matthew Smith, Cameron Coxe, Luke Pilling a Regan Poole.

Gallai tri arall - Chris Maxwell, Adam Davies a Daniel James - hefyd ennill eu capiau cyntaf yn Stadiwm Rose Bowl.

Bydd y garfan yn cynnal sesiwn hyfforddi sy'n agored i'r cyhoedd ar y Cae Ras yn Wrecsam ar 21 Mai cyn iddyn nhw hedfan i'r Unol Daleithiau ar gyfer y gêm, fydd yn dechrau yn oriau mân bore 29 Mai yng Nghymru.

Yn y gynhadledd i'r wasg wedi cyhoeddi'r garfan fe wnaeth Giggs gadarnhau na fydd pob un o'r 32 yn teithio i Pasadena, a'i fod yn hytrach yn gyfle i chwaraewyr ifanc gael y profiad o ymarfer gyda'r brif garfan.

Carfan Cymru

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Chris Maxwell (Preston North End), Adam Davies (Barnsley), Luke Pilling (Tranmere Rovers).

Ashley Williams (Everton), Ashley Richards (Caerdydd), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Chris Gunter (Reading), Declan John (Rangers), Connor Roberts (Abertawe), Chris Mepham (Brentford), Regan Poole (Manchester United, ar fenthyg yn Northampton), Joe Rodon (Abertawe, ar fenthyg yn Cheltenham), Adam Matthews (Sunderland), Cameron Coxe (Caerdydd), Tom Lockyer (Bristol Rovers).

Aaron Ramsey (Arsenal), Joe Ledley (Derby County), Daniel James (Abertawe), George Thomas (Caerlŷr), George Williams (Fulham, ar fenthyg yn St Johnstone), Matthew Smith (Manchester City), Lee Evans (Sheffield United), Andy King (Caerlŷr), Ryan Hedges (Barnsley), Marley Watkins (Norwich).

Tom Lawrence (Derby County), Harry Wilson (Lerpwl, ar fenthyg yn Hull), Sam Vokes (Burnley), Tom Bradshaw (Barnsley), David Brooks (Sheffield United), Hal Robson-Kanu (West Bromwich Albion).