Ceidwadwyr Cymru 'wedi bod ar ei hôl hi' wrth ymgyrchu
- Cyhoeddwyd
Mae Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyfaddef fod ei blaid ar ei hôl hi wrth iddyn nhw gyhoeddi cynlluniau i gyflogi swyddogion ymgyrchu proffesiynol ar draws Cymru.
Mae 10 aelod newydd o staff am gael eu cyflogi, gyda'r cyn aelod seneddol Craig Williams yn gweithio fel cynghorydd polisi i'r blaid yng Nghymru.
Fe gollodd y Ceidwadwyr dair sedd yn Etholiad Cyffredinol y llynedd, a thair sedd arall yn Etholiad y Cynulliad yn 2016.
Dywedodd y Cadeirydd Byron Davies, "Mae'r pleidiau eraill wedi bod ar flaen y gad. Roedden ni'n araf i ddal i fyny â nhw a sylweddoli hynny."
Daeth y sylwadau wrth i'r blaid baratoi i gynnal ei chynhadledd flynyddol yn Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener.
'Sylweddoli'r her'
Ychwanegodd Mr Davies y byddai ymgyrchoedd y dyfodol yn cael eu rhedeg ar lefel mwy lleol yn hytrach nag o Lundain, a bod 'brand' y Ceidwadwyr Cymreig wedi cael ei gydnabod gan ffigyrau amlwg yn y blaid.
Daeth Mr Davies yn gadeirydd ar y blaid yng Nghymru ar ôl colli ei sedd - Gŵyr - yn Etholiad Cyffredinol 2017, a dywedodd: "Roedd 2017 yn drobwynt. Ry'n ni nawr wedi sylweddol beth yw'r her i ni ac mae'n rhaid i ni gwrdd â'r her... yn wir rhaid gwella ar hynny.
"I fod yn blwmp ac yn blaen, fe gollon ni dri AC yn 2016 ac fe gollon ni dri AS yn 2017. Dyw hynny ddim yn newyddion da, ac eto fe gawson ni ganlyniadau da yn yr etholiadau lleol.
"Rhaid i ni adnabod y materion pwysig, ac mae'r bobl {newydd} yma yna i wneud hynny."